Francisco Pizarro
| Francisco Pizarro | |
|---|---|
| Ganwyd | Francisco Pizarro y González c. 16 Mawrth 1478 Trujillo |
| Bu farw | 26 Mehefin 1541 o clwyf drwy stabio Lima |
| Dinasyddiaeth | Coron Castilia, Sbaen |
| Galwedigaeth | conquistador, fforiwr |
| Swydd | Viceroy of Peru |
| Tad | Gonzalo Pizarro Rodríguez de Aguilar |
| Mam | Doña Francisca González y Mateos |
| Partner | Quispe Sisa, Cuxirimay Ocllo, Añas Colque |
| Plant | Francisca Pizarro Yupanqui |
| Gwobr/au | Ardalydd, Urdd Santiago |
| llofnod | |
![]() | |
Fforiwr a concwistador Sbaenaidd oedd Francisco Pizarro González (16 Mawrth 1476 – 26 Gorffennaf 1541). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y gŵr oedd yn gyfrifol am ddinistrio Ymerodraeth yr Inca.
Ganed Francisco Pizarro yn Trujillo (Extremadura). Roedd yn blentyn gordderch i hidalgo o'r enw Gonzalo Pizarro Rodríguez de Aguilar a merch o'r wlad,Francisca González y Mateos. Magwyd Pizarro yn anllythrennog a bu'n geidwad moch am gyfnod. Aeth i Dde America am y tro cyntaf yn 1502.
Cyrhaeddodd y Sbaenwyr dan Pizarro i diriogaethau'r Inca yn 1526. Roedd yn awnlwg ei bod yn wlad gyfoethog, a theithiodd Pizarro i Sbaen i gael hawl i'w goresgyn. Dychwelodd yn 1532, pan oedd yr ymerodraeth ar ganol rhyfel cartref rhwng dau fab Huayna Capac, Huascar ac Atahualpa. Roedd hefyd wedi ei gwanychu gan y frech wen, oedd wedi lledu o ganolbarth America. Dim ond 180 o ddynion oedd gan Pizarro, ond llwyddodd i goncro'r ymerodraeth. Dienyddiwyd Atahualpa yn Awst 1533.
Ar 18 Ionawr 1535, sefydlodd Pizarro ddinas Ciudad de los Reyes, a ddaeth yn fuan i'w galw yn Lima.
