Andrew Jackson
Andrew Jackson | |
![]()
| |
Cyfnod yn y swydd 4 Mawrth 1829 – 4 Mawrth 1837 | |
Is-Arlywydd(ion) | John C. Calhoun (1829-1832), Martin van Buren (1833-1837) |
---|---|
Rhagflaenydd | John Quincy Adams |
Olynydd | Martin van Buren |
Geni | 15 Mawrth, 1767 Waxhaw, De Carolina, UDA |
Marw | 8 Mehefin, 1845 Nashville, Tennessee, UDA |
Plaid wleidyddol | Democrat |
Priod | Rachel Donelson Robards Jackson |
Andrew Jackson (15 Mawrth 1767 - 8 Mehefin 1845) oedd seithfed arlywydd yr Unol Daleithiau (1829 - 1837). Cafodd ei eni yn nhref Waxhaw, De Carolina.
Ym 1796 cafodd ei ethol yn Aelod o Gynhadledd yr Unol Daleithiau ac ym 1798 cafodd ei wneud yn farnwr. Ond gwnaeth ei enw fel milwr yn y 1810au yn ymladd lluoedd Prydain Fawr a brodorion Americanaidd y De. Cafodd ei lysenwi'n "Gyllell Finiog" gan y brodorion am iddo a'i filwyr ladd rhai miloedd o frodorion o lwythau'r Cherokees, y Chickasaws, y Chocktaws, y Creeks ac yn arbennig y Seminoles; i'r Americanwyr gwyn ei lysenw oedd "Hen Hicori".
O 1821 hyd 1823 roedd yn llywodraethwr Fflorida ac ym 1823 cafodd ei ethol i Senedd yr Unol Daleithiau. Cafodd ei ethol yn arlywydd yn 1828, y Democrat cyntaf i ddal y swydd honno. Rhoddodd heibio'r arlywyddiaeth ym 1837.
Jackson oedd un o'r cyntaf i dderbyn a hyrwyddo'r cysyniad o Dynged Amlwg, sef bod yr Unol Daleithiau ifanc yn wedi ei dynghedu i ymestyn ei ffiniau a rheoli'r rhan fwyaf o Ogledd America.
Bu farw ym 1845 yn 78 oed yn Nashville, Tennessee.
Llinach Geltaidd[golygu | golygu cod y dudalen]
O Iwerddon y daeth ei rieni, ddwy flynedd cyn ei eni. Ganwyd ei dad yn Carrickfergus, Swydd Antrim sydd yng Ngogledd Iwerddon heddiw cyn priodi a sefydlu gerllaw ym mhentref Boneybefore. Mae'r tŷ hwn wedi'i droi'n amgueddfa fel coffâd am Andrew Jackson.