Mount Vernon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mount Vernon

Cartref teuluol George Washington, yn Virginia, Unol Daleithiau America, yw Mount Vernon, ar lan Afon Potomac fymryn i'r de o Washington, D.C..

Mae'r tŷ, ar yr ystâd sylweddol o'r un enw, yn adeilad newydd-glasurol Siorsaidd a godwyd gan dad George Washington yn 1741-1742. Symudodd y teulu iddo yn 1743. Mae'n adeilad pren dau lawr hardd sy'n nodweddiadol o dai mawr cefn gwlad y cyfnod yn nhaleithiau'r De.

Bu farw George Washington yno yn 1799. Mae Washington a'i wraig Martha wedi eu claddu ar ystâd Mount Vernon yn y beddrod teuluol.

Mae'r adeilad erbyn hyn yn gofeb genedlaethol.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]