Ashkelon
| Math | dinas, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas fawr, depopulated Palestinian village |
|---|---|
| Poblogaeth | 134,454 |
| Sefydlwyd |
|
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | Côte-Saint-Luc, Xinyang, Iquique, Aix-en-Provence, Vani, Kutaisi, Aviano, Pankow, Sopot, Entebbe, Portland, Baltimore, Sacramento |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hebraeg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ashkelon Subdistrict |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 48 km² |
| Uwch y môr | 10 metr |
| Cyfesurynnau | 31.6658°N 34.5664°E |
| Cod post | 78*** |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Ashkelon |
![]() | |
- Gweler hefyd Ashkelon (gwahaniaethu).
Dinas ar arfordir y Môr Canoldir yn ne Israel yw Ashkelon (Hebraeg: אַשְׁקְלוֹן Ashkelon; Arabeg: ٲشكلون, hefyd عسقلان Ar 'Asqalān; Lladin: Ascalon; Acadeg: Isqalluna). Sefydlwyd porthladd Ashkelon (Ascalon) yn Oes yr Efydd.
Yn nghwrs ei hanes hir mae Ashkelon wedi cael ei rheoli gan y Canaaniaid, y Philistiaid, y Babiloniaid, y Ffeniciaid, y Rhufeiniaid, y Mwslwmiaid a'r Croesgadwyr. Cafodd ei dinistrio gan y Mamlukiaid ar ddiwedd y 13g. Yn Rhyfel Israel a'r gwledydd Arabaidd 1948, roedd pentref Arabaidd Majdal ger Ashkelon yn un o wersylloedd blaen byddin yr Aifft yn Llain Gaza. Meddianwyd y pentref hwnnw gan yr Israeliaid ar 5 Tachwedd, 1948 a ffoes nifer o'r Arabiaid lleol i Gaza gyda'r fyddin Eifftaidd. Dychwelodd tua 2,000 i'w hen gartrefi ond cawsont eu gorfodi i adael gan yr Israeliaid yn 1950 i wneud lle am ymsefydlwyr Iddewig. Sefydlwyd y ddinas Israelaidd bresennol yn Ashkelon yn 1950. Erbyn heddiw mae 108,900 o bobl yn byw yno.
Am fod y ddinas yn agos i'r ffin â Llain Gaza mae wedi cael ei thrawo o bryd i'w gilydd gan rocedi Hamas yn rhan olaf 2008 yn y gwrthdaro a arweiniodd at Ymgyrch fomio Llain Gaza Rhagfyr 2008.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Cyngor Dinas Ashkelon Archifwyd 2006-08-27 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) "Ashkelon, ancient city of the sea" National Geographic, Ionawr 2001
- (Saesneg) "Ancient Ashkelon" Archifwyd 2008-04-24 yn y Peiriant Wayback Prifysgol Chicago
- (Saesneg) "Pictures of Ancient Ashkelon" Archifwyd 2008-10-19 yn y Peiriant Wayback
