Dinas annibynnol (UDA)
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | dinas annibynnol, dinas yn yr Unol Daleithiau, cyfwerth â sir ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Yn Unol Daleithiau America, mae dinas annibynnol yn ddinas nad yw o fewn tiriogaeth sir ac a ystyrir yn brif adran weinyddol o'i thalaith.
Mae yna 41 o ddinasoedd annibynnol yn yr Unol Daleithiau. Mae 38 ohonynt yn nhalaith Virginia. Y tair dinas annibynnol y tu allan i Virginia yw Baltimore yn nhalaith Maryland; St. Louis yn nhalaith Missouri; a Carson City yn nhalaith Nevada. Y mwyaf poblog ohonynt yw Baltimore.