Pharos Alecsandria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pharos Alecsandria (engrafiad lliwiedig gan Martin Heemskreck)

Goleudy enwog ar gopa dwyreiniol yr ynys fechan o'r un enw o flaen harbwr dinas Alecsandria yn yr Aifft ac un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd oedd Pharos Alecsandria.

Roedd yn dwr wedi ei wneud â blociau o farmor gwyn. Fe'i codwyd gan Sostratus o Cnidus yn 270 CC ar gyfer y brenin Ptolemy Philadelphus. Gwariwyd 800 talent arian ar ei gyfer. Roedd yn codi fel pyramid ac iddo dri llawr (neu ragor), pob un yn llai na'r llall ac o siapiau gwahanol, y cyntaf yn siâp sgwâr, yr ail yn wythochrog, a'r olaf yn grwn. Fe'i addurnwyd â phileri ac orielau ysblennydd.

Ymddengys fod ei uchder o gwmpas 35m, ond mae rhai awduron diweddarach yn honni ei fod yn fwy o gryn dipyn, e.e. tua 1250m yn ôl Stephanus o Fysantium! Mae'r awdur Iddewig Josephus yn dweud fod twr Phasael yng Nghaersalem i'w gymharu â'r Pharos o ran ei uchder, sy'n rhoi uchder o tua 135 troedfedd (90 cubit) iddo.

Roedd y Pharos yn dal i sefyll mor ddiweddar â'r flwyddyn 1300. Yn ddiweddarach, mabwysiadwyd yr enw pharos ar gyfer pob goleudy arall yn yr Hen Fyd. Cododd y Rhufeiniaid nifer fawr ohonynt o gwmpas y Môr Canoldir, ond dim ond goleudy Ravenna a ddaeth yn agos i'r Pharos am ei uchder a'i ysblander.

Mae'r gair am 'oleudy' mewn sawl iaith Ewropeaidd yn deillio o'r gair pharos, e.e. phare (Ffrangeg) a faro (Portiwgaleg a Sbaeneg).

Ffynhonnell[golygu]

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (argraffiad newydd, Llundain, 1902)