Sgwrs:Arabeg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Onid trwy'r Lladin neu'r Saesneg y daeth y geiriau Arabeg i'r Gymraeg? Dyfrig 22:40, 17 Awst 2005 (UTC)[ateb]

Bid siwr, mae'r geiriau hyn wedi cymryd gwahanol lwybrau i Gymru o'r canol-ddwyrain, aillai drwy Twrcaidd, Groëg neu Ladin a Saesneg, neu ar draws ogledd Affrica a thrwy Sbaeneg. Rhys 29 Tachwedd 2005

Ymadroddion Cyffredin[golygu cod]

Dw i wedi dileu'r adran 'ma. Dw i'n meddwl na ddylen ni ddim dysgu'r iaith i'r defnyddiwr. Hefyd, does dim 'z' yn Gymraeg a roedd y trawsgrifiad yn defnyddio 'z' (ond dydy neb yn ysgrifennu Arabeg yn yr wyddor Gymraeg, nac ydy?). Cathfolant (sgwrs) 20:21, 23 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

A sut mae ', 'A', 'D', 'S' a 'H' yn cael eu darllen 'fel Cymraeg'?? Cathfolant (sgwrs) 20:31, 23 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Dw i'n meddwl na ddylen ni ddim dysgu'r iaith i'r defnyddiwr - pam? Mae'n digwydd mewn sawl erthygl ar Wici-cy, a dw i'n gweld dim o'i le yn hynny. Wnei di drafod CYN dileu y tro nesaf os gweli di'n dda? Llywelyn2000 (sgwrs) 22:19, 23 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
O'r gore 'te. Mae'n ddrwg 'da fi.
Ar wici-en mae ymadroddion cyffredin yn cael eu dileu. Cathfolant (sgwrs) 00:12, 29 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Dw i'n gweld dim o'i le yn hynny -- mae'n dweud yma nad ydy Wicipedia yn eiriadur. Cathfolant (sgwrs) 03:16, 30 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Be mae'n ei ddweud ydy mai'n anaml iawn y bydd erthygl yn cynnwys diffiniadau penodol...; ac mae hynny'n wir. Does dim byd yn y Polisi am roi esiamplau, a dyna a wneir. Mae hyn yn digwydd mewn gwyddoniaduron confensiynol hefyd. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:25, 30 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Does dim byd yn y Polisi am roi esiamplau -- efallai, ond dw i'n credu mae'r adran yn wers Arabeg. Dylai'r 'imperative mood' cael ei dileu, o leia, a dw i wedi ei dileu (gyda 'pethau maen nhw'n dweud yn aml').
(Fel rwyt ti'n gwybod, dw i'n cy-1 neu cy-2, felly mae problemau ieithyddol gyda fi -- efallai dw i ddim wedi deall y polisi.) Cathfolant (sgwrs) 18:10, 1 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]
Cytuno. Defnyddiwr:Llywelyn2000 (sgwrs) 18:58, 1 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]
Dyma restr ymadroddion cyffredin sy wedi cael ei dileu ar wici-en. Cathfolant (sgwrs) 22:58, 5 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]

A dyma ymadroddion lu mewn erthyglau o ieithoedd eraill: Basgeg, Esperanto ac Eidaleg. Dw i ddim yn gweld hyn yn fater dirdynol iawn; ond mae'n amlwg dy fod di. Mil gwell fyddai gen i dreulio fy amser yn sgwennu erthyglau na dadlau am hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:57, 6 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]