Hasimiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Gwlad Iorddonen a'r Hasimiaid.

Brenhinllin sydd yn teyrnasu yng Ngwlad Iorddonen ers 1921 yw'r Hasimiaid[1] (Arabeg: الهاشميون‎, Al-Hāshimīyūn). Hwn oedd yr un teulu a deyrnasodd yn yr 20g yn Syria (1920), Hijaz (1916–1925), ac Irac (1921–1958).

Hawliant llinach â'r Proffwyd Muhammad, trwy Hasan, mab i Fatimah, merch y Proffwyd, a'i gŵr Ali, y pedwerydd califf. Clan neu dŷ o lwyth y Quraysh oedd y Banū Hāshim yn oes y Proffwyd, a chafodd ei enwi ar ôl Hashim ibn Abd Manaf, oedd yn daid i dad Muhammad. Er i'r Hasimiaid colli eu hawl ddiddadl i'r galiffiaeth, sefydlasant eu hunain yn emiriaid neu'n sharifiaid dros y ddinas sanctaidd Mecca yn y 10g.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, arweiniodd Hussein bin Ali y Gwrthryfel Arabaidd yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid. Wedi'r rhyfel, daeth Hussein yn frenin ar Hijaz, ei fab Faisal yn frenin Irac, a'i fab Abdullah yn frenin Iorddonen. Am gyfnod byr yn y flwyddyn 1920, bu Faisal hefyd yn frenin ar Deyrnas Arabaidd Syria nes i'r Ffrancod ail-goncro'r wlad a sefydlu mandad dan awdurdod Cynghrair y Cenhedloedd. Diorseddwyd Hussein ym 1925 yn sgil y goncwest Sawdïaidd, a daeth y frenhiniaeth yn Irac i ben gyda chwyldro gan swyddogion y fyddin ym 1958.

Aelodau'r teulu brenhinol cyfoes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur yr Academi, "Hashemite".

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Morris, Jan. The Hashemite Kings.
  • Susser, Asher a Shmuelevitz, Aryeh. The Hashemites in the Modern Arab World: Essays in Honour of the late Professor Uriel Dann (Llundain, Frank Cass, 1995).