Faisal I, brenin Irac
Gwedd
| Faisal I, brenin Irac | |
|---|---|
| Ganwyd | 20 Mai 1885 Ta'if, Mecca |
| Bu farw | 8 Medi 1933 o methiant y galon Bern |
| Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd, Arab Kingdom of Syria, Teyrnas Irac |
| Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
| Swydd | King of Iraq |
| Tad | Hussein bin Ali, Sharif Mecca |
| Mam | Abdiya bint Abdullah |
| Priod | Huzaima bint Nasser |
| Plant | Princess Azza of Iraq, Princess Rajiha of Iraq, Princess Rafia of Iraq, Ghazi of Iraq |
| Llinach | Hashemite dynasty of Iraq |
| Gwobr/au | Urdd yr Hashimites, Urdd Al Rafidain, Cadwen Frenhinol Victoria, Urdd Goruchaf y Dadeni, Order of Pahlavi, Nishan Mohamed Ali, Uwch Cordon Urdd Leopold, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Knight grand cross of the order of the crown of Italy |
Brenin Teyrnas Irac o 1921 hyd 1933 a Brenin Teyrnas Arabaidd Syria am gyfnod byr ym 1920 oedd Faisal bin Hussein bin Ali al-Hashemi (Arabeg: فيصل بن حسين بن علي الهاشمي, Fayṣal ibn Ḥusayn; 20 Mai 1885 – 8 Medi 1933), oedd yn aelod o'r frenhinllin Hasimaidd. Roedd Faisal yn un o feibion Hussein bin Ali, Sharif Mecca, ac yn arweinydd yn y Gwrthryfel Arabaidd yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid. Anogodd pan-Arabiaeth ymysg llwythau'r Arabiaid a'r enwadau Sunni a Shia, gan obeithio ennill gwladwriaeth Arabaidd oedd yn cynnwys Mesopotamia, Syria Fawr a gweddill y Cilgant Ffrwythlon.