Mynydd Libanus

Oddi ar Wicipedia
Mynydd Libanus
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Dyffryn Hollt Mawr Edit this on Wikidata
GwladLibanus Edit this on Wikidata
Arwynebedd4,840 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,088 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.29972°N 36.11639°E, 34.299719°N 36.116389°E Edit this on Wikidata
Hyd160 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata

Mynydd Libanus (Arabeg: جبل لبنان) yw'r enw a ddefnyddir am gadwyn o fynyddoedd yn Libanus a de-orllewin Syria. Mae'n ymestyn am 240 km o'r gogledd i'r de, gyda tua 160 km yn Libanus ac 80 km yn Syria.

Ar ochr orllewinol y mynyddoedd mae'r gwastadedd arfordirol a'r Môr Canoldir, tra ar yr ochr ddwyreiniol mae Dyffryn Beka. Y copa uchaf yw Qurnat as Sawda', 3,088 m. Rhoddodd y mynyddoedd eu henw i'r wlad; mae "Laban" yn golygu "gwyn" mewn Aramaeg.

Yn y mynyddoedd hyn y ceir Cedrwydd Libanus, a ystyrir yn symbol o'r wlad, ac sy'n ymddangos ar faner Libanus.