Arallfyd

Oddi ar Wicipedia

Enw arall ar Afallon, yr Isfyd neu uffern ydy'r arallfyd, a hynny mewn mytholeg neu grefyddau megis Wica. Mae'r syniad yma i'w ganfod mewn diwylliannau ledled y byd.

Fel arfer, mae Wiciaid sy'n credu mewn ailymgnawdoli yn credu bod yr enaid yn gorwedd rhwng ailymgnawdoliadau yn yr Arallfyd neu Wlad yr Haf, sydd â'r enw "ecstasi'r Dduwies" yn ôl Gardner.[1] Mae llawer o Wiciaid yn credu yn y gallu i gysylltu ag ysbrydion sy'n preswylio yn yr Arallfyd drwy gyfryngwyr ysbryd a byrddau wiji, yn bennaf ar adeg Nos Galan Gaeaf/Samhain, er bod eraill yn anghytuno â'r arfer hwn, megis yr Archoffeiriad Alex Sanders, a ddywedodd "bu iddynt farw; boed iddynt fod mewn heddwch".[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hutton, Ronald (1999). Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Withcraft. Oxford University Press, tud. 392
  2. Farrar, Stewart. What Witches Do, tud. 88