Afon Carrog
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Bae'r Foryd |
Cyfesurynnau | 53.091043°N 4.296642°W |
Afon yn ardal Arfon, Gwynedd, yw Afon Carrog. Mae'n llifo o'r bryniau ger Rhostryfan i'w haber ar Fae'r Foryd ger Llanwnda. Ei hyd yw tua 4 milltir.
Cwrs
[golygu | golygu cod]Mae tarddle Afon Carrog yn y bryniau isel i'r de o bentref Rhostryfan gerllaw Plas Tryfan. Oddi yno mae'n llifo i lawr i gyfeiriad y gorllewin drwy gaeau gan fynd dan bont ar yr A487 yn y Dolydd, lle mae'n uno ag Afon Wyled, ac un arall yn is i lawr ar yr A499, a elwir yn gyfeiliornus yn Bont Wyled). Ger Llanwnda mae'n llifo heibio i hen amddiffynfa Dinas y Pryf.[1] Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae hi'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda.
Mae'n gwneud tro bedol wedyn i lifo i gyfeiriad y gogledd am weddill ei thaith. Saif ei haber ar lan traeth lleidiog eang Bae'r Foryd, tua milltir i'r gogledd o bentref Llandwrog, yn agos i aberoedd Afon Foryd ac Afon Gwyrfai.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Map OS Landranger 1:50,000 Taflen 123.