William Gilbert Williams (hanesydd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Gilbert Williams
Ganwyd 1874, 20 Ionawr 1874 Edit this on Wikidata
Rhostryfan Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Hydref 1966 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth athro, hanesydd Edit this on Wikidata

Ysgolfeistr a phrifathro ysgolion Felinwnda ac wedyn Rhostryfan ym mhlwyf Llanwnda, Sir Gaernarfon, oedd William Gilbert Williams (20 Ionawr 187410 Hydref 1966). Ysgrifennodd yn helaeth ar bynciau hanesyddol lleol, gan gyfrannu at Cymru coch a phapurau lleol.

Cyhoeddodd nifer o bamffledi (sydd bellach yn hynod gasgladwy) ar ei wasg ei hun, ynghyd â nifer o lyfrau mwy sylweddol. Roedd o hefyd yn fardd lleol o sylwedd ac ysgrifennodd o leiaf ddwy ddrama a gweithiau ar gyfer plant. Ei brif lwyddiant fodd bynnag oedd ym maes hanes ei filltir sgwâr; mae'n ddigon posib mai ef oedd y cyntaf i edrych yn fanwl ar bapurau Llys Chwarter y Sir trwy lygaid hanesydd modern. Roedd ymysg y cyntaf i gyflwyno hanes ardal benodol yn seiliedig ar ymchwil manwl trwy ddefnyddio ffynonellau primaidd.

Bu'n weithgar yn gyhoeddus, gan wasanaethu am 10 mlynedd fel cynghorydd sir a llenwodd sawl swydd o bwys o fewn ei enwad, y Methodistiaid Calfinaidd.

Ceir peth o hanes ei deulu yn llyfr ei frawd John ["J.W."], sef Hynt Gwerinwr. Mae nodiadau a dyddiaduron o'i eiddo ar gadw yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon ac Archifdy Prifysgol Bangor.

Mae plac wedi'i godi i'w goffáu ar ei gartref, Talybont, ym mhentref Rhostryfan.