Wici Cofi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Gwefan yw Wici Cofi lle gellir rhoi hanesion, straeon ac atgofion am dref Caernarfon.

Tarddiad 'Cofi'[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwyr pawb mai Cofis y gelwir pobl Caernarfon, ond nid yw'r gair yn unigryw i Gaernarfon; mae hyn yn digwydd mewn o leiaf dau le arall. Deellir mai 'Coves' maent yn galw pobl Steòrnabhagh (Stornoway), gan ferch o'r dref. Hefyd 'Covey' y gelwir trigolion Cathair na Mart (Westport) yn Iwerddon gan bobl Castlebar a'r ardal gyfagos.

Engreifftiau o'r gwaith a gasglwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Clytiau Sgota Pysgotwyr Caernarfon ar Y Fenai a Bae Caernarfon[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyma gasgliad o enwau ar glytiau pysgota gan Tony Lovell, un o ‘sgotwyr “samons” olaf Caernarfon. Mae’r enwau hyn wedi cadw ar lafar dros o leiaf dair cenhedlaeth. Dyma'r tro cyntaf i lawer o'r geiriau hyn gael eu cofnodi ar y we.

  • 'Traeth Gwyn,' Ger trwyn y Belan, byddai’r hogiau yn dal whitebait yma.
  • 'Glasddwr' Lliw'r dŵr
  • 'Bwi “Nymbar 9”' Safle bwi yw hwn
  • 'Treasure Island' Llecyn yng nghanol y Fenai gyferbyn a Chaernarfon, y rheswm am yr enw yw bod y safle yma’n le da i ddal pysgod
  • 'Coffee Bay' Ger Ala Las, lliw'r dŵr yn y llecyn hwn sy’n gyfrifol am yr enw yma. Mae yna ambell un yn dal i'w ddefnyddio
  • 'Tŷ Kelly' Llecyn ger tŷ ble roedd rhywun o’r enw Kelly yn byw yno.
  • 'Twm Grafal'  Ar ochr ddeheuol Traeth Melyn, llygriad i tywyn yw Twm.
  • 'Southcrook' Y trwyn ar forglawdd Abermenai mae hwn ac mae’r edrych yr un siâp a phen ffon
  • 'Ynys Lom' Dim ond ar lanw uchel mae’r llecyn yma’n ymddangos fel ynys ger ceg yr afon braint yn nhraeth Melyn
  • 'Afon Nigar' Afon Rhyddgaer yw enw'r Braint gan bysgotwyr Môn, ond beth sydd wedi digwydd yma yw fod Rhuddgaer wedi ei lygru i "nigar" gan y Cofis
  • 'Cei Bach' Llecyn ar drwyn penrhyn Morfa Dinlle ger Caer y Belan
  • 'Trwyn y Monk' Safle rhwng Abermenai a thraeth Niwbwrch, ble suddodd cwch o’r enw The Monk ar fordaith o Borth Dinllaen i Lerpwl yn 1843.[1] Mae'r trwyn sydd ond yn ymddangos ar drai, ac i’w weld yn glir o Rosgadfan.
  • 'Sianel Gwyr Nefyn' neu 'Sianel Gw'r Nefyn'. Enw a ddefnyddiwyd yn hollol naturiol ar lafar, ond heb ymwybod i’r hogiau bod yr enw hwn yn un hen iawn sy’n ymddangos ar fap Lewis Morris 1748. Sianel o ddŵr tyfn oedd hwn a ddefnyddiwyd fel ffordd fyrrach o fynd a dod o gyfeiriad Nefyn.Daw'r gair 'Gwr' o'r gair 'cwfwr', 'Sianel Cwfwr Nefyn' yn wreiddiol, sydd wedi mynd yn 'Sianel Gw'r Nefyn'.
  • 'Tocyn Isaf a Thocyn Tŷ Calch'. Ger Tŷ Calch, ceir dau lecyn bychan o’r enw Tocyn Tŷ Calch a Thocyn Uchaf, sef dau bentwr o gerrig sy'n bodoli hyd heddiw, roedd yn rhwyd yn cael ei roi allan o un llecyn a’r rhaff hir ym mhen arall y rhwyd. Byddai’r rhaff yn cael ei thynnu i mewn a’r rhwyd wedyn yn cau i siâp U a’i thynnu i’r lan. Byddai gwaith yma'n digwydd unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos oherwydd y llanw. Mae’n bosib gweld y rhain ar y llanw isaf un. Lleihad yn nifer yr eogiaid ddaeth a diwedd i’r traddodiad hwn yng Nghaernarfon. 
  • 'Dead Man's Bwi'. Y bwi olaf, yn dilyn dau neu dri bwi ar ffurf 'polion' sy'n tywys llongwrs o'r Cei Llechi, heibio i Borth yr Aur ac allan i brif sianel y i'r Fenai.
  • 'Cyrtsi Bwi' (Courtesy Buoy). Bwi tua dau gan llath o bont yr Aber i gyfeiriad yr Foryd. Bwi ar gyfer cychod oedd methu â dod i mewn i Gei Llechi oherwydd amser y llanw.
  • Gwter Fawr. Sianel rhwng y twyni tywod yng nghanol Y Fenai., dros ffordd I Morrissons rwan.

Rhestr o byllau pysgota afon Saint yng Nghaernarfon[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 'Fflatiau Incinerator' - lle llosgi sbwriel ger yr hen dump.
  • 'Llyn Du' – Llyn o dan gysgod y coed ac orherwydd yn edrychyn ddu.
  • 'Llyn whisgin' - Ger ty Major Whisgin
  • 'Llyn Crwn'  siap y pwll
  • 'Llyn Butt' ger Lledwigan
  • 'Llyn Mwnci' – oherwydd siap y tro ynddo. Mwnci yn enw ar ran o goler ceffyl.
  • 'Llyn Wercws' - o dan yr hen Workhouse
  • 'Llyn Peipan Ddwr'  Peipen ddwr yn cyflenwi dwr i Gaernarfon yn croesi yma
  • 'Llyn Crew' - lle roedd plant stad Ysgubor goch yn nofio. Criw, dyma darddiad tref Crewe yn Lloegr
  • 'Llyn Garnage'[2].

Afon Saint yw'r enw cywir am yr afon nid Seiont, yn ôl yr Athro Gwynedd Peirce, brodor o Gaernarfon.

Termau Gan Tony Lovell[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 'Brishyn o wynt'. Sgota gyda’r nos, Brishyn gwynt braidd  yn gryf, ac yn ôl y diweddar Ned Lovell Caernarfon “erbyn nosi eith hwn i lawr”
  • 'Teid 17' Llanw uchel 17 troedfedd efo gwynt pob tro
  • Teid Darci, neu Darci drwodd mynd allan pan oedd y llanw yn addas yn hywr yn y nos, ar ol 10 o'r gloch. Amser mynd allan oedd 4 awr ar ol penllanw.
  • Teid bach y bore allan tua 2-3 a dod i mewn ar doriad dydd.
  • 'Briwel' Gwynt dros dir, dim briwel yn y rhywd. Gwynt o’r dwyrain yn chwythu’r “gwymon” ? allan i’r mor. 
  • Roedd angen sgiliau arbennig i ‘sgota yn y Belan gan ei fod yn “bottleneck”
  • Treasure Island, safle bwi rhif 9 – allan a’r dynfa, Ned yn gweiddi bod pethau wedi mynd o’i le, gan i’r rhywd gau fel hosan ac wedi difetha’r dyniad. Ond roedd ei llond hi o “logars” eogiad mawr. (Bwi gwyrdd sydd i’w weld yma heddiw ychydig allan o geg y Seiont)
  • Traeth Gwyn ger y Belan, dyma lle y bu iddynt ddal y 3 eog mwyaf erioed, y tri yn gyfanswm o 100 pwys.
  • Coffee Bay Ala Las gan fod y banc yn frown neis, lledi mwd i’w cael yma neu  fflowndars
Dywediadau[golygu | golygu cod y dudalen]
  • Dywediad gan y diweddar Ned Lovell un o bysgotwyr y dref "Mae hi wedi mynd yn ddistyll arnai" Pethau wedi mynd yn ddrwg arno, e.e. rhedeg allan o arian.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ifor Williams, cyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghylchlythyr Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru
  • Mae'r hanes i’w gael ar wefan Rhiw.com; adalwyd 24 Gorffennaf 2017.
  • Cofnodwyd yr uchod gan Tony Lovell