Robert Arthur Griffith (Elphin)
Gwedd
Robert Arthur Griffith | |
---|---|
Ffugenw | Elphin |
Ganwyd | 1860 Caernarfon |
Bu farw | 26 Rhagfyr 1936 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr, bardd |
Tad | John Owen Griffith |
Bardd Cymraeg oedd Robert Arthur Griffith (1860 - 26 Rhagfyr 1936), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol "Elphin". Roedd yn fab i John Owen Griffith (Ioan Arfon).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Yn frodor o Gaernarfon, Gwynedd, cafodd yrfa fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr ac wedyn fel ynad heddwch ym Merthyr Tudful ac Aberdâr.[1] Roedd yn un o hyrwyddwyr cynnar y mudiad Cymru Fydd.[2]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â dwy gyfrol o gerddi a chomedi, Y Bardd a'r Cerddor, a ddisgrifir fel "drama orau ei chyfnod" gan Bobi Jones[2], cyfrannodd nifer o erthyglau beirniadol a dychanol i gylchgronau Cymraeg fel Y Geninen.[1] Roedd Elphin yn fardd poblogaidd yn ei ddydd, ond llym yw beirniadaeth Bobi Jones ar ei gerddi:
- "Dichon y cytunem nad oes yn ei waith odid ddim o werth mawr parhaol ac nad oes ganddo gymaint ag un gerdd gron y gellir cymharu ei hansawdd â goreuon ei genhedlaeth nac ag unrhyw genhedlaeth arall." Ond er hynny, "Roedd yn gymeriad llenyddol cwbl unigolyddol."[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Murmuron Menai (d.d.). Cerddi.
- O Fôr i Fynydd (d.d.). Cerddi.
- Y Bardd a'r Cerddor (d.d.). Drama.
- (Gyda David Edwards a John Owen Jones) The Welsh Pulpit: divers notes and opinions, by a Scribe, a Pharisee and a Lawyer (1894)