Elffin ap Gwyddno

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Elffin ap Gwyddno yw noddwr Taliesin Ben Beirdd yn y chwedl Hanes Taliesin a thraddodiadau eraill o'r Oesoedd Canol. Cyfeirir ato weithiau fel Elffin yn unig; y sillafiad cynharaf ar ei enw yw Elphin (Llyfr Taliesin 19.23). Roedd Elffin yn fab i'r cymeriad chwedlonol neu led-hanesyddol Gwyddno Garanhir, a gysylltir â theyrnas Ceredigion a chwedl Cantre'r Gwaelod, y tir a gollwyd i'r môr ym Mae Ceredigion. Ym marn rhai ysgolheigion, un o arwyr yr Hen Ogledd oedd Elffin yn wreiddiol, ond cafodd y traddodiadau amdano eu trawsblannu yng Nghymru.

Llinach[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl y testun achyddol Bonedd Gwŷr y Gogledd (sy'n rhoi llinach rhai o arwyr yr Hen Ogledd), mae Elffin, trwy ei dad Gwyddno, ei daid Cawrdaf, a’i hendaid Garmonion, yn un o ddisgynyddion Dyfnwal Hen ac, efallai, Macsen Wledig ac Elen Luyddog (diwedd y 4g).[1] Yn ôl cofnod yn llawysgrif Peniarth 131 (1480–1550?), roedd ganddo ddau frawd, sef Cann ac Idris Arw. Cyfeirir at frawd arall yn Yr Areithiau Pros, Edeyrn fab Gwyddno Garanhir, "y gwr a aeth i ymgyfredec a’r gwynt pann ddoeth dirvawr lynges i ddwyn gwraic Ffin vab Koed i drais"[2].

Noddwr Taliesin[golygu | golygu cod y dudalen]

Elffin yn darganfod Taliesin yng Nghored Wyddno - darlun rhamantus a gyhoeddwyd yn argraffiad 1877 o Mabinogion yr Arglwyddes Charlotte Guest

Ond cofir Elffin yn bennaf am ei gysylltiad â'r Taliesin chwedlonol, Taliesin Ben Beirdd. Yn ail ran y chwedl Hanes Taliesin, mae Elffin yn cael hyd i'r Taliesin newyddanedig yn hongian mewn cwd lledr ar bolyn yng Nghored Wyddno, ger Aberdyfi, ar fore Calan Mai. Elffin a roes ei enw iddo. Cododd y baban a dywedodd wrth ei was "Llyma dal iesin" ('Dyma dalcen teg'): "Taliesin bid!" atebodd y baban.[3] Canodd y baban gerdd iddo, 'Dihuddiant Elffin,' a oedd ymhlith y cerddi mwyaf adnabyddus yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Mae'n dechrau gyda'r pennill

'Elffin teg, taw a'th wylo;
Ni wna lles drwg obeithio;
Ni chad yng ngored Wyddno
Erioed gystal â henno.'

Yn ddiweddarach, mae Elffin yn gael ei gipio a'i garcharu gan Maelgwn Gwynedd, a geisiai brofi diweirdeb ei wraig. Yn yr ymryson barddol sy'n dilyn, yn llys Maelgwn Gwynedd yn Negannwy, bu gornest rhwng Taliesin a beirdd llys Maelgwn i ryddhau Elffin. Ceir sawl cyfeiriad at hyn yn y cerddi a dadogir ar Daliesin yn Llyfr Taliesin. Cyfeirir ato mewn dau o 'Englynion y Beddau' yn ogystal (Llyfr Du Caerfyrddin). Ar ôl iddo gael ei ryddhau mae Elffin yn ennill ras ceffylau ac yn darganfod crochan sy'n llawn o aur. Dyma'r tal i Elffin a'i wraig am feithrin Taliesin.

Mae Taliesin yn pwysleisio, yn y gerdd 'Hanes Taliesin', mai "prifardd cyffredin" ydyw i Elffin. Cyfeirir at Daliesin sawl gwaith fel bardd Elffin yng ngwaith y beirdd, e.e. gan Lewys Môn a Wiliam Cynwal[4] Weithiau mae beirdd fel Dafydd Benfras a Tudur Aled yn cymharu noddwyr i Elffin.

Cysylltir Elffin ag Addaon fab Taliesin yn y chwedl fwrlesg Cymraeg Canol Breuddwyd Rhonabwy:

"Idawc," heb y Ronabwy, "pwy y marchawc gynneu?" "Y gwas ieuanc kymhennaf a doethaf a wneir yn y teyrnas hon, Adaon uab Telessin." "Pwy oed y gwr a drewis y varch ynteu?" "Gwas traws fenedic, Elphin uab Gwydno."[5]

Llenyddiaeth ddiweddarach[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1829, cyhoeddodd y llenor Thomas Love Peacock (1785-1866) nofel fer hynod o'r enw The Misfortunes of Elphin. Mae hi'n nofel fwrlesg sy'n seiliedig yn fras ar hanes Elffin a Taliesin yn y chwedl ond sy'n cynnwys yn ogystal hanes Cantre'r Gwaelod a sawl cymeriad o hanes traddodiadol Cymru. Mae ffynonellau Peacock yn anhysbys, ond mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â Hanes Taliesin. Ymwelodd â Meirionnydd sawl gwaith a phriododd ferch leol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), t. 238.
  2. Gwenallt (gol.), Yr Areithiau Pros, 15.6–9.
  3. P.K. Ford (gol.), Ystorya Taliesin (Caerdydd, 1992), t. 69.
  4. Eurys Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn, XCII.41–2; Gruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal, 36.53–6; 51.49–50.
  5. Melville Richards (gol.), Breuddwyd Rhonabwy (Caerdydd, 1948), t. 8, llau. 14–19.