Elen Luyddog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymeriad yn y chwedl Breuddwyd Macsen Wledig yw Elen Luyddog. Mae Macsen Wledig, Ymerawdwr Rhufain, yn breuddwydio ei fod yn teithio i ogledd-orllewin Ynys Brydain, lle mae'n gweld caer ysblennydd wrth aber gyda mynyddoedd gwyllt a choed y tu ôl iddi ac ynys ffrwythlon gyferbyn. Aiff i mewn i neuadd y gaer a gweld gweision yn chwarae gwyddbwyll a'r forwyn 'decaf erioed' yn eistedd ar 'orsedd orwych'. Mae hi'n codi ac yn dod ato ac mae'n rhoi ei freichiau am ei gwddw. Wrth iddo eistedd gyda hi ar yr orsedd ac ymserchu ynddi, mae twrw'r tariannau'n ymysgwyd yn y gwynt yn ei ddeffro ac mae'r weledigaeth yn diflannu.

Ffenigl Elen Luyddog (Heracleum mantegazzianum) a enwyd ar ôl Elen.

Mae Macsen yn anfon negeseuwyr allan i bedair ban byd i chwilio am y ferch yn y freuddwyd, ac yn y diwedd maent yn darganfod y gaer a'r forwyn. Maent yn gofyn i'r forwyn briodi Macsen, ond mae hi'n gwrthod oni bai'r ymerawdwr ei hun yn dod i'w cheisio. A dyna a wna Macsen a'i wŷr. Glaniant ym Mhrydain a goresgyn yr ynys gan yrru Beli fab Manogan a'i wŷr ar ffo. Elen yw'r ferch ac mae hi'n byw gyda'i thad Eudaf a'i brodyr Cynan (Cynan Meiriadog) ac Adeon yng Nghaer Seint yn Arfon (Segontium).

Erys Macsen i ffwrdd o Rufain am dros saith mlynedd, ac erbyn iddo ddychweld gyda Elen, mae ymerawdwr newydd wedi cymeryd ei le. Mae Macsen yn gwarchae dinas Rhufain am flwyddyn ,yn aflwyddianus, nes daw brodyr Elen a chriw o ryfelwyr Arfon i gipio'r ddinas a'i hadfer i Facsen. Yn ddiolchgar iddynt, mae Macsen yn caniatau iddynt grwydro a goresgyn tir fel y mynnant. Ar ôl blynyddoedd o grwydro ar y cyfandir cyrhaeddant Lydaw. Mae hanner y llu'n dychwelyd i Gymru gydag Adeon a'r lleill yn aros yn Llydaw dan Cynan. Cyfeirir at y traddodiad mewn un o'r Trioedd fel un o'r "Tri Chyfor a aeth o'r ynys hon, ac ni ddaeth drachefn yr un onadunt".[1]

Yn ôl y chwedl, ar ôl Elen yr enwyd y ffordd Rufeinig Sarn Helen. Cred rhai ysgolheigion bod yr Elen wreiddiol yn cynrychioli sofraniaeth Ynys Brydain a'i bod hefyd yn dduwies Geltaidd yn wreiddiol. Cymysga'r chwedl ei hun hanes dwy ferch wahanol, sef Elen Luyddog ac Elen ferch Eudaf. Credir mai Helena, mam yr ymerawdwr Custennin Fawr (306-337) yw sail cymeriad Elen Luyddog. Diau bod elfennau o hanes Elen o Gaerdroia wedi lliwio dychymyg y cyfarwydd (chwedleuwr) o Gymro hefyd.

Santes[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Gatholig Dewi Sant a Santes Helen, Twthill, Caernarfon
Eglwys Gatholig Dewi Sant a Santes Helen, Twthill, Caernarfon
Eglwys Santes Helen, Penisa'r Waen, Caernarfon.
Eglwys Santes Helen, Penisa'r Waen, Caernarfon.
Eglwys Llanelen, Sir Fynwy
Eglwys Llanelen, Sir Fynwy
Eglwysi yng Nghymru a enwyd ar ôl Santes Helen

Mae'n bosibl i'r cymeriad gael ei sefydlu ar berson o gig a gwaed a drigai yng Nghymru ac a roddodd ei henw ar dros 20 o ffynhonnau a nifer o eglwysi gan gynnwys Llanelen (Seisnigiad: Llanellen).[2] Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r de o'r Fenni ar y briffordd A404 sy'n cysylltu'r Fenni a Brynbuga, yng ngogledd-orllewin y sir, a Phenisa'r Waun, Caernarfon, sef Eglwys Santes Helen.[3]

Ei thad oedd Eudaf Hen. Fe'i cymysgwyd yn y gorffennol droeon gyda Helen arall: Helena o Gaergystennin. Yn yr achau Cymreig nodir Sant Peblig ac Owain fab Macsen Wledig yn feibion Macsen ac Elen.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rachel Bromwich, Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1964; arg. newydd 1991), Triawd 35.
  2. Enwau Cymru
  3. Gwefan Coflein; adalwyd 16 Mehefin 2016