Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Doc Fictoria, Caernarfon. Gellir gweld adeilad yr Archifdy ochr draw i'r doc.

Gwasanaeth Archifau yng Ngogledd Cymru yw Gwasanaeth Archifau Gwynedd.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd Archifdy Caernarfon yn y 1940au hwyr, yn dilyn cyfarwyddyd gwladol ar bob llywodraeth leol i gadw dogfennaeth hanesyddol eu hardal mewn archif bwrpasol. Bu i Gyngor Sir Feirionnydd benodi archifydd ym 1953. Rhwng 1974 a 1996, roedd y Gwasanaeth hefyd yn rhedeg archidy yn Llangefni. Mae'r casgliad yn amrywiol iawn, gyda papurau ystad, dogfennau personol, cynlluniau a mapiau a lluniau o Wynedd yn rhan ohoni[1].

Mae gan y gwasanaeth ddwy Archifdy, un yng Nghaernarfon ac un yn Nolgellau.

Mae modd ymweld â'r ddwy archifdy sydd gan y gwasanaeth yn ystod yr wythnos i weld y dogfennau hanesyddol yma.

Rhestr o'r Prif Archifwyr[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]