Chris Roberts

Oddi ar Wicipedia
Chris Roberts
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Mae Chris Roberts (ganwyd 26 Mawrth 1985) yn enwog am ei rhaglen teledu coginio Bwyd Epic Chris ar S4C. Mae ganddo hefyd dudalen coginio ar-lein sydd efo miloedd o ddilynwyr.

Ganwyd Chris ym Mangor, Gwynedd i Colin a Lynda Roberts. Symudodd o Landwrog i Gaernarfon yn 14 mlwydd oed.

Roedd gan Chris ddiddordeb mewn coginio erioed ond cymerodd ef o ddifri ar ôl gwylio dogfen coginio am Francis Mallman (Cogydd enwog sydd yn coginio drwy ddefnyddio tân o Batagonia) yn 2017. Atgoffwyd y ddogfen am straeon ei dad, Colin Roberts, pan oedd yn mynd i Ariannin i bysgota, byw a choginio Asado (ffordd mae’r Gauchos yn Yr Ariannin yn coginio dros dân). Ar ôl hyn penderfynodd Chris adeiladu ‘Asado pit’ a choginio oen Cymreig ar yr haearn croesi dros dân.

Dechreuodd roi lluniau o’r bwyd ar wefannau cymdeithasol fel Facebook ac wedyn aeth ymlaen i roi fideos ohono a’i gi, Roxy, yn coginio efo cynhwysion lleol o gwmpas Gogledd Cymru gyda thân a mwg. Mae un fideo o Chris yn coginio byrger yn defnyddio rysáit ei hun wedi cael ei wylio dros 320,000 o weithiau!

Ar ôl mis neu ddau, cysylltodd Hybu Cig Cymru a Chris a gofynasant nhw iddo fod yn ‘wyneb cyfarwydd’ i alluogi’r cwmni i hyrwyddo cig Cymreig o gwmpas y Deyrnas Unedig mewn sioeau mawr. Mae Chris wedi cael llawer o gyfleoedd arbennig ers cychwyn coginio yn cynnwys ei raglen deledu, ei ŵyl bwyd ’Chrisfest’ a llawer mwy.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Brenin y barbeciw , BBC Cymru Fyw, 8 Mehefin 2017. Cyrchwyd ar 12 Chwefror 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]