Rheilffordd Sir Gaernarfon
| Math | cwmni rheilffordd |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 29 Gorffennaf 1862 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.14°N 4.27°W |
![]() | |
Roedd Rheilffordd Sir Gaernarfon yn cysylltu gorsaf reilffordd Caernarfon (terfynfa Rheilffordd Bangor a Chaernarfon o Fangor) gydag Afon Wen. Fe ffurfiwyd y cwmni gwreiddiol, sef Cwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon, ym 1864, gyda'r nod o brynu hen dramffordd cwmni Rheilffordd Nantlle a'i throi'n rheilffordd lled safonol 4'8½" a ddefnyddiai injans stêm. Y bwriad oedd cysylltu a lledu hen drac Rheilffordd Nantlle yn Nyddyn Bengan ger Pen-y-groes, gan greu lein newydd o gledrau trwy ucheldir Uwchgwyrfai ac Eifionydd hyd Afon Wen. Am rai blynyddoedd, fodd bynnag, terfynnai'r lein y tu allan i Gaernarfon yng Nghorsaf Pant, gerllaw safle Canolfan Arddio Fron-goch heddiw. Ar ôl rhai blynyddoedd o drafod, cytunwyd ar lein a fyddai croesi Afon Seiont wrth Bont Saint a rhedeg ar hyd glan yr afon, cyn mynd trwy twnel dan Faes Caernarfon gan gysylltu â gorsaf Caernarfon y London and North West Railway. Wedi i hyn ddigwydd, ym 1872, cymerodd yr L.N.W.R. reilffordd Sir Gaernarfon drosodd.
