Gwilym R. Jones

Oddi ar Wicipedia
Gwilym R. Jones
Ganwyd24 Mawrth 1903 Edit this on Wikidata
Tal-y-sarn Edit this on Wikidata
Bu farw29 Gorffennaf 1993 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Clawr 'Bro a Bywyd Gwilym R. Jones'.

Bardd a golygydd y cylchgrawn wythnosol Y Faner am dros 25 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (24 Mawrth 190329 Gorffennaf 1993). Cafodd ei fagu yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle, Gwynedd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ei waith fel newyddiadurwr ar staff Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon cyn symud i Faner ac Amserau Cymru yn 1945. Cyhoeddodd pum cyfrol o gerddi ynghyd â dwy nofel fer, Y Purdan (1942) a Seirff yn Eden (1963). Yn yr Eisteddfod Genedlaethol enillodd y Gadair yn 1938, y Goron (1935) a'r Fedal Ryddiaith (1941). Bu farw yn 1993 yn ddeg ar bedair ugain oed.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

  • Caneuon (1935)
  • Cerddi (1969)
  • Y Syrcas (1975)
  • Y Ddraig (1978)
  • Eiliadau (1981)

Rhyddiaith[golygu | golygu cod]

Astudiaethau[golygu | golygu cod]