Afon Llyfni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Afon Llyfni
Afon Llyfni - geograph.org.uk - 141332.jpg
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0495°N 4.3387°W Edit this on Wikidata
Map
Am yr afon yn ne Cymru, gweler Afon Llynfi.
Afon Llyfni

Mae Afon Llyfni yn afon fechan yng Ngwynedd, yng ngogledd-orllewin Cymru.

Mae Afon Llyfni yn tarddu fel Nant Drws y Coed ar lethrau Y Garn a Mynydd Drws y Coed uwchben pentref gwledig Rhyd-ddu, man geni T. H. Parry-Williams. Wedi llifo tua'r gorllewin wrth ochr y ffordd B4418 mae'n cyrraedd Llyn Nantlle Uchaf.

Ar ôl llifo trwy'r llyn hwnnw mae'r afon yn newid ei henw i Afon Llyfni. Mae'n llifo i lawr Dyffryn Nantlle, gan godi dŵr o'r hen dyllau chwareli sy'n niferus iawn yn yr ardal yma, a llifo heibio Tal-y-sarn a Phen-y-groes. Mae'n cyrraedd y môr gerllaw Pontllyfni.

Yn y gorffennol defnyddid rhai o'r tyllau chwareli i gael gwared o sbwriel diwydiannol o wahanol fathau, a bu pryder fod hwn yn creu llygredd wrth i ddŵr o'r pyllau hyn lifo i mewn i Afon Llyfni. Mae'n ymddangos nad oes problem gydag ansawdd y dŵr ar hyn o bryd fodd bynnag, ac mae'r Llyfni yn afon boblogaidd gyda physgotwyr.

Enwau Pyllau 'Sgota Afon Llyfni[golygu | golygu cod y dudalen]

Pyllau Lan Mor

Cae Corn

Pwll Girdar

Cae Glas

Pont y Cim

Rhyd y Cim  (ger y bont)

Craig Dinas

Llyn Hir

Fflatiau

Pistyll

Llyn Tro

Steps Bryn Hwylfa

Glanrafon

Llyn Ffatri Glanrafon

Llyn Dwy Garreg

Tan y Bryn

Preifat No Fishing

Pwll Dolgau

Pwll Tywod

GORS

Pwll Eglwys

Fflatiau Felin Gerrig

Pwll Cefn Faes Llyn

Pwll Fatri

Plas

Caer Engan

Fflatiau Gwaith Gas

Mwd Talysarn

Buasai Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn gwerthfawrogi gwybodaeth am leoliadau'r pyllau uchod.