Y Garn (Rhyd-Ddu)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Garn
Crib Nantlle
Y Garn ger Rhyd-Ddu
Llun Y Garn ger Rhyd-Ddu
Uchder 633m
Lleoliad Gwynedd
Gwlad Cymru
Am fryniau eraill o'r un enw gweler Y Garn (gwahaniaethu).

Mynydd 633m ger Rhyd-Ddu yn Eryri, Gwynedd, yw Y Garn. Mae'n rhan o gadwyn Crib Nantlle, cyfres o fryniau sy'n ymestyn i'r gorllewin-de-orllewin o bentref Rhyd-Ddu am tua 9 km gan orffen uwchben Talysarn a Nebo: y grib yma sy'n ffurfio ffin deheuol Dyffryn Nantlle, tra mae Cwm Pennant i'r de ohoni.

Y Garn yw'r bryn cyntaf a ddringir wrth gerdded Crib Nantlle gan gychwyn o Ryd-Ddu. Y copa nesaf ar y grib yw Mynydd Drws-y-Coed (695m) uwchben bwlch Drws-y-Coed.

Ceir golygfa eang o'r copa, gan gynnwys clogwynni trawiadol Craig y Bera ar lethrau deheuol Mynydd Mawr, Dyffryn Nantlle ei hun, a'r Wyddfa.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Terry Marsh (1993) The summits of Snowdonia (Robert Hale) ISBN 0-7090-5248
  • W.A.Poucher (1962) The Welsh Peaks (Constable) ISBN 0-09-461750-3