Cwm Pennant (Gwynedd)

Oddi ar Wicipedia
Cwm Pennant
Mathpeiran, dyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDolbenmaen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Dwyfor Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.001463°N 4.189537°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Cwm Pennant yn gwm yng Ngwynedd ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref Porthmadog, sy'n cael ei ffurfio gan ran uchaf Afon Dwyfor. Gellir ei gyrraedd o bentref Dolbenmaen ger y briffordd A487 lle mae ffordd fechan yn arwain tua'r gogledd i fyny'r cwm ar lan orllewinol Afon Dwyfor, gyda ffordd arall yn croesi'r afon ac arwain rhan o'r ffordd ar hyd y lan ddwyreiniol. Gellir cerdded i mewn i ran uchaf y cwm o Ryd Ddu ar hyd llwybr trwy Fwlch y Ddwy Elor.

Ar ochr ddwyreiniol y cwm mae Moel Hebog, Moel yr Ogof a Moel Lefn, tra ar yr ochr orllewinol ac i'r gogledd mae mynyddoedd Crib Nantlle. Ffurfir nifer o gymoedd llai gan nentydd sy'n llifo i mewn i Afon Dwyfor, er enghraifft Cwm Llefrith, Cwm Trwsgl a Cwm Ciprwth. Poblogaeth wasgaredig sydd yn y cwm, gydag ychydig o dai yn ffurfio pentref Llanfihangel-y-Pennant.

Mae'r cwm yn nodedig am harddwch ei olygfeydd, a daeth yn adnabyddus trwy y gerdd Cwm Pennant gan Eifion Wyn:

Yng nghesail y moelydd unig,
Cwm tecaf y cymoedd yw,

Ar un adeg roedd nifer o chwareli llechi yn rhan uchaf y cwm ac yn rhai o'r cymoedd llai sy'n cysylltu ag ef, a gellir gweld yr olion o hyd. Ni fu'r un o'r rhain yn llwyddiannus iawn, er enghraiift methiant oedd chwarel y Prince of Wales yn mlaen y cwm. Gellir gweld olion trac y rheilffordd oedd yn arwain i'r chwarel yma, oedd â'r enw mawreddog Gorseddau Junction & Portmadoc Railway. Roedd hefyd fwynglawdd copr yng Nghwm Ciprwth.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Roberts, Gwilym, Cwm Pennant (addaswyd gan Dic Goodman) (Pwllheli: Gwasg yr Arweinydd, 1989)
  • Williams, Dewi, Chwareli a chloddfeydd yn y Pennant Cyfres Darlith flynyddol Eifionydd. (Cyngor Sir Gwynedd, Gwasanaeth Llyfrgell, 1986) ISBN 0904852512