Afon Eden (Gwynedd)
Gwedd
![]() Afon Eden ger Coed y Brenin | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 161 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.801°N 3.888°W, 52.8°N 3.9°W ![]() |
Aber | Afon Mawddach ![]() |
![]() | |
- Erthygl am yr afon yng Ngwynedd yw hon. Am afonydd eraill o'r un enw, gweler Afon Eden. Ceir hefyd Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd, sef Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Afon yn ne Gwynedd sy'n llifo i afon Mawddach yw Afon Eden.
Mae'r afon yn tarddu i'r gorllewin o bentref Bronaber, lle mae nifer o nentydd oddi ar lechweddau dwyreiniol Moel Ysgyfarnogod ac i'r de o Lyn Trawsfynydd yn cyfarfod. Llifa tua'r de, trwy Goed y Brenin, ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A470 ar y cychwyn. Mae'r A470 yn ei chroesi dros Bont Dol-gefeiliau; llifa'r afon wedyn ger ochr ddwyreiniol y briffordd hyd nes ymuno ag afon Mawddach gerllaw Pont ar Eden, fymryn i'r gogledd o bentref Ganllwyd.
Enwau
[golygu | golygu cod]- Glan llynnau duon
Black Pools on Eden Glanllynauduon, nid nepell o Bronaber, Trawsfynydd'[1]
Cadwraeth
[golygu | golygu cod]Gyda Chors Goch Trawsfynydd, mae Afon Eden yn Ardal Gadwraeth Arbennig a adnabyddir fel Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd.