Pegasos
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Pegasus)
| Enghraifft o: | ceffyl adeiniog, ceffyl chwedlonol |
|---|---|
| Lliw/iau | gwyn |
| Rhan o | mytholeg Roeg |
| Dynodwyr | |


Ceffyl adeiniog mewn mytholeg Roeg oedd Pegasos neu Pegasus (Hen Roeg: Πήγασος). Cenhedlwyd ef o ganlyniad i garwriaeth rhwng y Gorgon Medusa a Poseidon, duw'r môr. Daeth i'r byd o waed Medusa pan laddwyd hi gan Perseus.
Mae'n gymeriad yn yr hanes am Bellerophon, sy'n dal Pegasos a'i ddofi, ac yna yn ei ddefnyddio i ymladd yn erbyn y Chimaira a'r Amasoniaid. Ceisiodd Bellerophon hedfan i Fynydd Olympos ar gefn Pegasos, ond gyrrodd y duwiau bryf i bigo Pegasos, a daflodd Bellerophon oddi ar ei gefn. Cyrhaeddodd Pegasos i Olympos, a daeth yn gariwr taranfolltau Zews.
Mae Pegasos wedi rhoi ei enw i gytser Pegasos.