Caseg Wybr
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cymeriadau chwedlonol ![]() |
Yn llên gwerin Cymru, roedd y Gaseg Wybr yn gaseg adeiniog o faintioli anferth a welid yn yr awyr (wybr).
Roedd hi o liw winau, a phlu gwyn ar ei thalcen, ac roedd ganddi garnau ac adenydd mawr. Yn ôl cred y werin bobl, byddai'n disgyn ar ryw ros neu fynydd-dir o bryd i'w gilydd a phan glywai rywun yn dod cymerai ei hedyn ac ymsaethai i'r awyr gan weryru yn ddychrynllyd.
Cofnodir y Gaseg Wybr yn llên gwerin Meirionnydd a rhannau eraill o Gymru. Mewn rhai manylion mae'r Gaseg Wybr yn debyg i Pegasus, y ceffyl adeiniog enwog ym mytholeg Roeg.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- William Davies, 'Llen-gwerin Meirion', Cofnodion a chyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Blaenau Ffestiniog, 1898 (Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1900), tud. 200.