Perseus (mytholeg)
Perseus ac Andromeda (1774–1777) gan Anton Raphael Mengs, a gomisiynwyd yn Rhufain gan Syr Watkin Williams-Wynn[1] | |
| Enghraifft o: | hanner-duw ym mytholeg Roeg, arwyr Groegaidd |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01drl6 |
Duw neu arwr Groeg oedd Perseus (Hen Roeg: Περσεύς). Roedd yn fab i Zews a Danaë, ferch Acrisios.
Cenhedlodd Zews Berseus trwy ddisgyn fel cawod o aur yn arffed Danaë. Ar ôl ei geni cafodd ei rhoi mewn casgen gyda'i fam a'i ollwng ar drugaredd y môr (motiff llên gwerin a geir mewn sawl diwylliant – y Taliesin chwedlonol er enghraifft) am fod oracl yn proffwydo y byddai Acrisios yn cael ei ladd ganddo.
Glaniodd y gasgen ar ynys Seriphos lle magwyd Perseus.
Ceir sawl chwedl enwog a gysylltir â Pherseus. Yr enwocaf efallai yw'r hanes am ei daith i ladd Medusa, un o'r Gorgoniaid, a dwyn ei phen ofnadwy. Llwyddodd i wneud hynny gyda chymorth y dduwies Athena a roes ddrych iddo fel na fyddai edrychiad y gorgon yn ei droi'n garreg. Ar ôl torri pen Medusa mae march rhyfeddol yn dod i'r golwg. Dyma Pegasos ac mae Perseus yn hedeg i ffwrdd ar y march asgellog.
Yn ail ran y chwedl mae'n ennill llaw Andromeda, ferch Cepheus gan y dduwies Cassiopeia. Roedd Cassiopeia wedi bostio bod Andromeda'n degach na'r Nereidau, morynion Poseidon, duw'r môr. I ddial y sarhad anfonodd Poseidon dilyw ac anghenfil o'r môr i wlad Cassiopeia a Cepheus. Proffwydolodd oracl Jupiter Ammon, yn yr Aifft, fod modd cael gwared â'r gorthrwm hynny trwy offrymu Andromeda i'r anghenfil. Rhwymodd Cepheus ei ferch i graig ar lan y môr. Yn ffodus daw Perseus i'r adwy. Mae'n lladd yr anghenfil trwy ddangos pen ofnadwy Medusa iddo ac yn achub Andromeda.
Ar ôl ei phriodi mae Perseus yn mynd ag Andromeda i Argos ac yn sefydlu llinach brenhinol y Perseidiaid yn y deyrnas enwog honno.
Enwir y cytser Perseus ar ei ôl.
Roedd y chwedlau am Perseus yn adnabyddus ledled yr Henfyd a cheir cyfeiriadau niferus ato yn llenyddiaeth a chelf y cyfnod Clasurol, er enghraifft gan Ofydd yn ei Metamorphoses ac Apollonius Rhodius yn ei Argonautica.
|
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lord, Peter (2016), The Tradition: A New History of Welsh Art, 1400–1990, Aberteifi: Parthian, tud. 119
- J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)
- Oscar Seyffert, Dictionary of classical Antiquities (Llundain, 1902)

