Y Fari Lwyd

Oddi ar Wicipedia
Y Fari Lwyd
Y Fari Lwyd yn Llangynwyd, Pen-y-bont ar Ogwr tua 1910
Enghraifft o'r canlynoldefod, traddodiad Celtaidd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaHen Galan Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Fari Lwyd; 2014

Arferai partïon 'canu gwaseila' gludo pen neu benglog caseg neu geffyl a elwid yn Fari Lwyd o ddrws i ddrws, yn enwedig drwy Forgannwg, lle bu'n draddodiad di-dor. Mae pentref Llangynwyd ym Morgannwg yn parhau hyd heddiw i gynnal y Fari Lwyd, ac yn ddiweddar mae llawer o ardaloedd wedi ei hatgyfodi.

Deillia'r hen arfer o dywys y 'Fari Lwyd' o gwmpas tai o hen ddefod a oedd unwaith yn ymwneud â ffrwythlondeb, mae'n debyg. Fe'u cynhelid o noswyl y Nadolig hyd 6 Ionawr ac weithiau ar ôl hynny hyd yn oed ac roedd i'r ddefod gysylltiad arbennig â Nos Ystwyll (sef 5 Ionawr). Mae'r ffigwr hwn o ben ceffyl yn ddigon adnabyddus yn nefodau tymhorol gwledydd eraill hefyd. Ymhlith yr arferion eraill a gynhelid yr adeg hon (ond sydd, yn wahanol i ddefod y Fari Lwyd wedi diflannu o'r tir) y mae hela'r dryw bach a gwaseila.

Gwaith celf gan Rhŷn Williams yn seiliedig ar y Fari lwyd draddodiadol.

Cân y Fari Lwyd[golygu | golygu cod]

William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), Pen–y–bont ar Ogwr, Sir Forgannwg yn canu rhan agoriadol cân y Fari Lwyd.[1]

Fel rhan o ddefod y Fari Lwyd, ceir ymryson rhwng y gwaseilwyr a pherchennog y tŷ, bob yn ail, gyda chais i ddod i mewn i'r tŷ. Yn Tâp AWC 7. Recordiwyd tâp gan Amgueddfa Werin Cymru yn Hydref 1953 o William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), Woodlands, Brynmenyn, ger Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Forgannwg yn canu rhan agoriadol yr ysmryson hwn. Hyd at tuag 1933 arferai Rees weld gwŷr yn 'canu gwaseila', gan fynd a'r Fari Lwyd allan i'ri'r gogledd ddwyrain o Ben–y–bont (Coety, Bryncethin, ayb).

Ceir saith bennill sy'n cynrychioli rhan agoriadol defod y Fari Lwyd, pan ganai'r parti y tu allan i'r drws gyfres o benillion traddodiadol. Yna dôi'r 'pwnco', sef y ddadl (a genid ar yr un dôn, mewn cyfuniad o benillion traddodiadol a rhai ‘difyfyr’) rhwng aelod o'r parti a gwrthwynebydd y tu arall i'r drws. Fel arfer, ceid tynnu coes yn lled galed wrth i'r naill ochr ddifrio'r llall am ei ganu 'allan o diwn', ei feddwdod, ei grintachrwydd, ayb. Disgwylid i griw'r Fari Lwyd drechu yn y ddadl cyn ennill mynediad i'r tŷ a chael yno gacenni a diod ac weithiau, rodd ariannol. Weithiau, o leiaf, wedi gorffen 'pwnco', canai'r parti benillion ychwanegol yn cyflwyno'r holl aelodau ac yr oedd hefyd gân ffarwél y gellid ei chanu ar yr aelwyd. Yn ôl pob golwg, ar fesur triban ac ar dôn wahanol yr oedd y ddwy gân olaf.

Geiriau[golygu | golygu cod]

Amrywiad o fersiwn a recordiwyd gan Sain Ffagan:

Wel dyma ni'n dywad,
Gyfeillion diniwad,
I ofyn 's cawn gannad,
I ofyn 's cawn gannad,
I ofyn 's cawn gannad
I ganu.
Os na chawn ni gannad,
Rhowch glywad ar ganiad
Pa fodd ma'r 'madawiad
Pa fodd ma'r 'madawiad
Pa fodd ma'r 'madawiad
Nos heno.
Ni dorson ein crimpa
Wrth groeshi'r sticila
I ddyfod tuag yma
I ddyfod tuag yma
I ddyfod tuag yma
Nos heno.
Os oes yna ddynion
All dorri anglynion,
Rhowch glywad yn union
Rhowch glywad yn union
Rhowch glywad yn union
Nos heno.
Os aethoch rhy gynnar
I'r gwely'n ddialgar,
O, codwch yn hawddgar
O, codwch yn hawddgar
O, codwch yn hawddgar
Nos heno.
Y dishan fras felys
 phob sort o sbeisys,
O, torrwch hi'n rhatus
O, torrwch hi'n rhatus
O, torrwch hi'n rhatus
Y Gwyla.
O, tapwch y baril
A 'llengwch a'n rhugul;
Na rannwch a'n gynnil
Na rannwch a'n gynnil
Na rannwch a'n gynnil
Y gwyla.

Nodyn gan Sain Ffagan ar y fersiwn yma:

Tâp AWC 7. Recordiwyd Hydref 1953 gan William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), Woodlands, Brynmenyn, ger Pen–y–bont ar Ogwr, Sir Forgannwg. Hyd at tuag 1933 arferai WMR weld gwŷr yn 'canu gwaseila', gan ddwyn y Fari Lwyd allan, yn y pentrefi i'r gogledd ddwyrain o Ben–y–bont (Coety, Bryncethin, ayb.).

Y ceffyl pantomeim[golygu | golygu cod]

Yn ôl rhai y Fari Lwyd Geltaidd yw tarddiad y cymeriad hanfodol hwnnw, y Ceffyl Pantomeim. Mae'n ymddangos cyn belled yn ôl â 1503 mewn drama Gernyweg, Beunaus Meriasek, am fywyd Sant Meiriadog.[2]

Oriel[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. amgueddfacymru.ac.uk; adalwyd Ionawr 2016
  2. Gwefan Barn Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.; Y Pridd A'r Concrid - Hiliaeth cefn gwlad gan John Pierce Jones; adalwyd 05/01/2013

Dolen allanol[golygu | golygu cod]