Y Genom Dynol

Casgliad cyflawn o wybodaeth genetig bodau dynol yw'r Genom Dynol. Mae'r wybodaeth hon wedi'i hamgodio fel dilyniadnt DNA oddi fewn i 23 pâr o gromosomau sydd hwythau oddi fewn i gnewyllyn y gell ac mewn moleciwl bychan o DdNA oddi fewn i DdNA meitocondraidd. Ceir gwahaniaeth o tua 0.1% rhwng gwahanol fathau o bobl a gwahaniaeth o 4% rhwng dyn a mwnci.[1]).
Y Genom Dynol oedd y prosiect cyntaf o'i bath a gynhyrchodd y dilyniant cyfan o genomau'r bod dynol. Erbyn 2012 roedd genomau miloedd o bobl wedi cael eu mapio. Defnyddir y data ledled y byd oddi fewn i wyddoniaeth biofeddygol, fforenseg DNA ac anthropoleg yn ogystal â sawl cangen arall o wyddoniaeth. Y gred gyffredinol yw y bydd canlyniadau prosiect y Genom Dynol, yn y dyfodol, yn arwain i ddatblygiadau llwyddiannus mewn meddygaeth a dileu afiechydon genetig. Ceir carfan arall sy'n gwrthwynebu gwaith fel hyn, gan y bydd, yn y pendraw'n creu'r 'bod dynol perffaith'.
Nid yw'r wyddoniaeth yma'n gwbwl ddealladwy gan wyddonwyr, er bod bron pob genyn bellach wedi cael ei adnabod. Mae llawer o waith i'w wneud cyn y deellir yn union sut mae'r dilyniant DNA yn gweithio, beth yw pwrpas biolegol eu protinau a'u cynnyrch RNA.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Varki A, Altheide TK (Dec 2005). "Comparing the human and chimpanzee genomes: searching for needles in a haystack.". Genome Research 15 (12): 1746–58. doi:10.1101/gr.3737405. PMID 16339373.