Equus (genws)

Oddi ar Wicipedia
Equus
Amrediad amseryddol: 1.8–0 Miliwn o fl. CP
Pleistosen cynnar i'r presennol
(gyda'r cloc): ciang (E. kiang), ceffyl Przewalski (E. ferus przewalskii), sebra Grévy (E. grevyi), ceffyl dof (E. f. caballus), onagr (E. hemionus), sebra y gwastatir (E. quagga), asyn dof (E. africanus asinus) a sebra'r mynydd E. zebra
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Perissodactyla
Teulu: Equidae
Genws: Equus
Linnaeus, 10fed rhifyn o Systema Naturae, 1758
Rhywogaethau

E. africanus
E. ferus
E. grevyi
E. hemionus
E. kiang
E. quagga
E. zebra

Genws o anifeiliaid yn nheulu'r Equidae, yw Equus, sy'n cynnwys ceffylau, asynnod a sebras. Dyma'r unig genws o fewn y teulu Equidae a cheir saith rhywogaeth yn perthyn iddo a nifer o rywogaethau sydd wedi'u difodi ond a geir ar ffurf ffosiliau.

Mae'n fwya na thebyg i'r genws Equus darddu o Ogledd America yn yr Hen Fyd. Mae aelodau'r genws hwn i gyd yn garnolion odfyseddog (Lladin: Perissodactyla), gyda choesau hirion, pennau mawrion, gyddfau cymharol hirion, mwng a chynffonau hirion hefyd. Mae pob un yn llysysol a'r rhan fwyaf yn pori gwair a gwellt, gan mai systemau treulio syml sydd ganddynt.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]