Dynfarch
Jump to navigation
Jump to search
Brithwaith modern o'r Eidal sy'n portreadu dynfarch.
Creadur o fytholeg Roeg a Rhufeinig a chanddo gorff a choesau ceffyl a rhan uchaf corff dyn yw dynfarch.[1] Yn ôl yr hen Roegiaid, buont yn byw ym mynyddoedd Thessaly ac Arcadia ac yn epil i Ixion, Brenin y Lapith. Wedi iddynt geisio cipio priodferch Pirithous, mab Ixion, cawsant brwydr â'r Lapith. Yn sgil trechiad y dynfeirch gan y Lapith, cawsant eu gyrru o Fynydd Pelion.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ dynfarch. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2017.
- ↑ (Saesneg) Centaur (Greek mythology). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2017.