Neidio i'r cynnwys

Llyfr Oriau Llanbeblig

Oddi ar Wicipedia
Llyfr Oriau Llanbeblig
Enghraifft o:llawysgrif oliwiedig, llyfr oriau Edit this on Wikidata
Deunyddcroen Edit this on Wikidata
Awduranhysbys Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1501 Edit this on Wikidata
Tudalennau138 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 1390 Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBreuddwyd Macsen Wledig Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Map
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llawysgrif Gymreig ganoloesol a gysylltir ag ardal Llanbeblig, ar gyrion Caernarfon, Gwynedd, yw Llyfr Oriau Llanbeblig. Mae'n enghraifft brin o ddosbarth arbennig o lyfrau canoloesol a elwir yn llyfrau oriau, sef llyfrau defosiynol wedi'u darlunio'n gain. Lladin yw iaith y llawysgrif.

Credir fod y llawysgrif yn dyddio o tua diwedd y 14g. Fe'i adnabyddir fel 'Llyfr Oriau Llanbeblig' am fod darlun sy'n dangos dathliad cysegru eglwys Peblig Sant yn ymddangos ynddi. Damcaniaethir ei bod yn bosib mai'r perchennog cyntaf oedd merch o'r enw Isabella Godynogh (bu farw yn 1413). Roedd llyfrau oriau yn aml yn cael eu llunio ar gyfer merched. Ceir nodyn am farwolaeth Isabella yn y llawysgrif ar gyfer 23 Ebrill.

Llawysgrif groen ydyw Llyfr Oriau Llanbeblig, sy'n cynnwys 138 tudalen ffolio (175mm x 121mm). Mae'n cynnwys saith mân-ddarlun, yn cynnwys portread o frenin a allai gynrychioli Macsen Wledig, a gysylltir ag ardal Segontiwm yn y chwedl ganoloesol Breuddwyd Macsen Wledig. Ceir yn ogystal ddarluniau o Sant Pedr, yr archangel Gabriel, a'r Forwyn Fair a'r Iesu.

Miniatur o'r Drindod yn Llyfr Oriau Llanbeblig (LlGC MS 17520A, fol. 4v); maint y llun 175mm x 121mm
Miniatur o'r Drindod yn Llyfr Oriau Llanbeblig (LlGC MS 17520A, fol. 4v); maint y llun 175mm x 121mm 

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]