Mohammed Zahir Shah
Mohammed Zahir Shah | |
---|---|
![]() Y Brenin Zahir Shah yn ei wisg filwrol ym 1963. | |
Ganwyd | 15 Hydref 1914 ![]() Kabul ![]() |
Bu farw | 23 Gorffennaf 2007 ![]() Kabul ![]() |
Man preswyl | Darul Aman Palace, Q3881647 ![]() |
Dinasyddiaeth | Affganistan ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | King of Afghanistan ![]() |
Rhagflaenydd | Mohammed Nadir Shah ![]() |
Tad | Mohammed Nadir Shah ![]() |
Mam | Mah Parwar Begum ![]() |
Priod | Humaira Begum ![]() |
Plant | Ahmad Shah Khan, Muhammed Nadir Khan, Prince Muhammed Daoud Pashtunyar Khan, Muhammed Akbar Khan, Crown Prince of Afghanistan ![]() |
Llinach | Barakzai dynasty ![]() |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Cadwen Frenhinol Victoria, Order of the Supreme Sun, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Ruban Urdd Cenedlaethol y Cedrwydd, Urdd y Seren Iwgoslaf, Order of Pahlavi, Grand Cordon of the Order of Leopold, Grand cross of the Order of the White Lion, Order of al-Hussein bin Ali, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Nishan-e-Pakistan, Urdd yr Hashimites, Grand Cross of the Order of the Redeemer, Nishan Mohamed Ali, Great Nile necklace, Uwch Urdd Mugunghwa, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum ![]() |
Uchelwr Affganaidd o frenhinllin y Barakzai oedd Mohammed Zahir Shah (15 Hydref 1914 – 23 Gorffennaf 2007) a fu'n Frenin Affganistan o 1933 i 1973.
Ganed yn Kabul, Teyrnas Affganistan, yn fab i Mohammed Nadir Khan. Esgynnodd Mohammed Nadir i'r orsedd ym 1929, a fe'i olynwyd gan ei fab Zahir Shah yn sgil ei lofruddiaeth yn Nhachwedd 1933. Byddai'n frenin tawedog am ryw 30 mlynedd, gan adael aelodau eraill ei deulu i lywodraethu.[1]
Mynnodd ei rym drwy gyfansoddiad 1964, a sefydlodd frenhiniaeth gyfansoddiadol. Aeth ati i ddatblygu isadeiledd ei wlad, gan gynnwys prosiectau dyfrhau ac adeiladu ffyrdd, gyda chymorth ariannol o Unol Daleithiau America a'r Undeb Sofietaidd. O ran polisi tramor, bu'n niwtral yn ystod y Rhyfel Oer. Er gwaethaf ei ddiwygiadau, ni chawsant fawr o effaith y tu allan i Kabul a'r cylch, ac yn nechrau'r 1970au dioddefai'r wlad o sychder a newyn.
Collodd ei rym yn sgil coup d'état ar 17 Gorffennaf 1973. Ymddiorseddai yn ffurfiol ar 24 Awst 1973 ac aeth yn alltud i'r Eidal. Dychwelodd i Affganistan yn 2002, a bu farw pum mlynedd yn ddiweddarach yn 92 oed.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Mohammad Zahir Shah. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2021.