Mohammed Nadir Shah
| Mohammed Nadir Shah | |
|---|---|
| Ganwyd | 9 Ebrill 1883 Dehradun |
| Bu farw | 8 Tachwedd 1933, 9 Tachwedd 1933 Kabul |
| Dinasyddiaeth | Affganistan |
| Galwedigaeth | diplomydd, gwleidydd |
| Swydd | King of Afghanistan, llysgennad |
| Tad | Muhammed Yusuf Khan |
| Priod | Mah Parwar Begum |
| Plant | Mohammed Zahir Shah, Princess Zamina Begum of Afghanistan |
| Llinach | Barakzai dynasty |
Mohammed Nadir Shah (10 Ebrill 1880 – 8 Tachwedd 1933) oedd brenin Affganistan o 1929 hyd ei farwolaeth yn 1933.
Roedd yn fab i Dost Mohammed a phennaeth byddin Amanullah Khan (Emir yn wlad ac yn ddiweddarach ei brenin) yn y Drydedd Ryfel Eingl-Affganaidd (1919 - 1922) a arweiniodd at ennill annibyniaeth lawn i Affganistan ar Brydain dan Gytundeb Rawalpindi yn 1922. Ond collodd ffafr yr emir a bu rhaid iddo ffoi i alltudiaeth yn Ffrainc.
Yn 1929, pan ymddeolodd Amanullah fel brenin y wlad, dychwelodd i Affganistan gyda chefnogaeth ddiplomyddol Prydain a chychwynodd ar raglen o ddiwygiadau economaidd a chymdeithasol. Ond, fel yn achos ei ragflaenydd, roedd elfennau ceidwadol yn anfodlon am hyn a chafodd Mohammed Nadir ei lofruddio gan asasin yn 1933. Fe'i olynwyd gan ei fab Mohammed Zahir Shah.
| O'i flaen : Amanullah Khan |
Emiriaid Affganistan Mohammed Nadir Shah |
Olynydd : Mohammed Zahir Shah |