Amanullah Khan

Oddi ar Wicipedia
Amanullah Khan
Ganwyd1 Mehefin 1892 Edit this on Wikidata
Paghman Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1960 Edit this on Wikidata
Zürich Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAffganistan Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn, brenin Edit this on Wikidata
SwyddKing of Afghanistan Edit this on Wikidata
RhagflaenyddNasrullah Khan Edit this on Wikidata
TadHabibullah Khan Edit this on Wikidata
PriodSoraya Tarzi Edit this on Wikidata
LlinachBarakzai dynasty Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd yr Eryr Gwyn, Urdd y Sbardyn Aur, Cadwen Frenhinol Victoria Edit this on Wikidata

Amanullah Khan (28 Chwefror, 1892 - 25 Ebrill, 1960) oedd rheolwr Affganistan o 1919 hyd 1929.

Roedd yn llywodraethwr Kabul pan laddwyd ei dad Habibullah Khan gan asasin yn 1919. Esgynodd i'r orsedd fel Emir y wlad ac arweiniodd ryfel ysbeidiol yn erbyn y llywodraeth Brydeinig India (1919 - 1922) a arweiniodd at Gytundeb Rawalpindi yn 1922 a chydnabod annibyniaeth Affganistan gan Brydain. Cymerodd y teitl 'brenin Affganistan' yn 1926.

Dechreuodd raglen o ddiwygiadau ar linellau Gorllewinol ond enynnai hyn ddicter ceidwadwyr crefyddol a dorrodd allan yn wrthryfel agored yn 1928 pan ddychwelodd Amanullah o daith estynedig yn Ewrop. Ffoes y wlad yn Ionawr 1929 a bu byw mewn alltudiaeth yn Rhufain hyd ei farwolaeth yn 1960. Ei olynydd oedd Mohammed Nadir Shah.

O'i flaen :
Habibullah Khan
Emiriaid Affganistan
Amanullah Khan
Olynydd :
Mohammed Nadir Shah