Habibullah Khan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Habibullah Khan
Habibullah.jpg
Ganwyd 3 Mehefin 1872 Edit this on Wikidata
Tashkent Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Chwefror 1919 Edit this on Wikidata (46 oed)
Achos: llofruddiaeth Edit this on Wikidata
Afghanistan Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd emir Edit this on Wikidata
Tad Abdur Rahman Khan Edit this on Wikidata
Plant Inayatullah Khan, Amanullah Khan Edit this on Wikidata
Teulu Nasrullah Khan Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Marchog yr Uwch Groes yn Urdd Sant Mihangel a Sant Sior Edit this on Wikidata

Habibullah Khan (3 Mehefin 187220 Chwefror, 1919) oedd brenin Affganistan o 1901 hyd ei farwolaeth yn 1919. Cafodd ei eni yn Tashkent, Wsbecistan, yn fab hynaf yr Emir Abdur Rahman Khan. Dilynodd ei dad i'r orsedd yn Hydref 1901.

Roedd Habibullah yn frenin cymharol seciwlar, rhyddfrydol, a geisiai ddiwygio bywyd ei wlad, e.e. trwy gyflwyno meddygaeth Orllewinol. Sefydlodd ysgolion, moderneiddiodd y fyddin a cheisiodd ddiwygio'r gyfraith.

Cadwodd Affganistan yn wlad niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan anwybyddu galwadau gan swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid (Twrci), a ystyrid gan rai yn arweinydd crefyddol Islam, i gael y wlad i ymuno yn y rhyfel. Gwellodd perthynas ei wlad â'r India Brydeinig drwy arwyddo cytundeb heddwch yn 1905 ac ymweld â'r wlad yn 1907.

Cafodd ei asasineiddo tra ar daith hela ym mryniau Kalagosh ar Chwefror 20, 1919. Fe'i olynwyd gan ei fab Amanullah Khan

O'i flaen :
Abdur Rahman Khan
Emiriaid Affganistan
Habibullah Khan
Olynydd :
Amanullah Khan