Ghazni

Oddi ar Wicipedia
Ghazni
Mathdinas, cyn-brifddinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth143,379 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:30 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iHayward Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGhazni District Edit this on Wikidata
GwladBaner Affganistan Affganistan
Uwch y môr2,219 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.5492°N 68.4233°E Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn nwyrain canolbarth Affganistan a phrifddinas Talaith Ghazni yw Ghazni (Dari: غزنی‎, Pashto: غزني‎). Saif ar lwyfandir 2,225 m o uchder, ger Afon Ghazni. Hon yw'r unig ddinas gaerog sydd yn goroesi yn Affganistan.[1] Ar gyrion y ddinas ei hun mae pentref Rowẓeh-e Sultan, safle'r olion hynafol, gan gynnwys Meindyrau Ghazni a beddrod Mahmud o Ghazni.

Mae'n debyg i Ghazni ddyddio'n ôl i'r 7g, os nad yn gynharach. Yn yr 11g, dan deyrnasiad Mahmud o Ghazni, hon oedd prifddinas Ymerodraeth y Ghaznavid, brenhinllin Fwslimaidd gyntaf Affganistan. Ysbeiliwyd Ghazni ym 1150–51 gan luoedd y Ghurid, a bu sawl llwyth yn brwydro drosti nes iddi ildio i'r Mongolwyr ym 1221. Codwyd uchelgaer o'i hamgylch yn y 13g. Gorchfygwyd bro Ghazni gan Timur yn y 14g, a bu dan dra-arglwyddiaeth y Timurid nes i'r Mughal gipio Ghazni a Kabul ym 1504. Daeth yn rhan o Ymerodraeth Durrani ym 1747 dan deyrnasiad Ahmad Shah Durrani. Cafodd Ghazni ei chipio am gyfnod gan y Prydeinwyr yn ystod Rhyfel Cyntaf yr Ymerodraeth Brydeinig yn Affganistan (1839–42).

Bellach, Ghazni yw'r brif anheddiad ar hyd y briffordd o Kabul i Kandahar, ac mae'n ganolfan fasnachol a diwydiannol pwysig ar gyfer da byw, crwyn anifeiliaid, sidan, a chynnyrch amaethyddol. Cynyddodd y boblogaeth o ryw 48,700 yn 2006 i 69,000 yn 2020.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Ghaznī. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Awst 2021.