Sgwrs:Affganistan

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Safoni'r enw[golygu cod]

Hoffwn gynnig ein bod yn newid enw'r erthygl a'r categorïau perthnasol o 'Afghanistan' (Saesneg) i 'Affganistan' (Cymraeg).

Ceir enghreifftiau ar y we o'r ffurf Gymraeg 'Affganistan' gan BBC Cymru, Golwg360, S4C, ymgyrch dotcym, Llywodraeth Cymru ac eraill. Mae'n wir fod yr Atlas Cymraeg Newydd a Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dewis y ffurf Saesneg, am ryw ddirgel reswm neu'i gilydd, ond 'Affganistan' sy gan Geiriadur yr Academi. Dydy Geiriadur Prifysgol Cymru ddim yn cynnwys enwau gwledydd fel rheol, ond mae'n cofnodi'r gair 'Affganiad' (1846 yw'r enghraifft gynharaf). Diffiniad y gair gan GPC yw "Brodor o Affganistan".

Dyma Gymreigiad naturiol ac amlwg sydd wedi cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd - dydy o ddim yn air a fathwyd yn ddiweddar - ac sy'n cael ei ddefnyddio ar y we gan rai o'n prif sefydliadau, yn cynnwys y tri phrif wasanaeth newyddion ar-lein (mae Golwg360 wedi ennill ei blwyf erbyn hyn), a'r llywodraeth ei hun. Gan hynny, os ydym am barchu'r Gymraeg ar y Wicipedia Cymraeg, dwi'n meddwl y dylem ni wneud yr un fath a chael y ffurf Gymraeg safonol 'Affganistan' yn lle'r ffurf Saesneg 'Afghanistan'. Hoffwn glywed barn pawb sydd â diddordeb mewn hyn fel bod gennym ni gofnod o'r rhesymau dros ein dewis, symud neu beidio. Anatiomaros 15:56, 11 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno. Mae chwilio ar Google yn dod a llu o ganlyniadau yn defnyddio "Affganistan" yn y Gymraeg. Alla i ddim gweld beth yw dadl Bwrdd yr Iaith dros ddefnyddio 'Afghanistan'. Porius1 16:31, 11 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno. Mae'n debyg mai'r sillafiad brodorol افغانستان yw'r rheswm. Mae غ yn cynrychioli sain tebyg i "r" Ffrangeg, sy'n cael ei drawslythrennu fel "gh" fel arfer. Ond gan nad yw'n rhan o'r wyddor Gymraeg, gwell fyddai "Affganistán" neu debyg. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Llygadebrill (sgwrscyfraniadau) 19:25, 11 Awst 2009
Does ge i ddim barn fy hun ar y mater, ond Afghanistan mae Golwg yn ei ddefnyddio (gweler y rhifyn cyfredol). Llywelyn2000 17:58, 20 Awst 2009 (UTC)[ateb]