Hudud ul-'alam min al-mashriq ila al-maghrib

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurUnknown Edit this on Wikidata
IaithPerseg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi10 g Edit this on Wikidata

Llyfr daearyddiaeth a ysgrifenwyd yn yr iaith Arabeg gan awdur anhysbys o Bersia yn y 10g yw Hudud ul-'alam min al-mashriq ila al-maghrib (حدود العالم من المشرق الی المغرب). Ystyr y teitl yw "Terfynnau'r Byd o'r Dwyrain i'r Gorllewin".

Cafodd y gwaith mawr ei gwblhau yn 982 OC, a'i gyflwyno i'r brenin Ghurid Abu ul-Harith Muhammad ibn Ahmad, ffaith sy'n awgrymu mai ef a noddodd neu a gomisynodd y gwaith.

Mae'r llyfr yn ymdrin â daearyddiaeth y byd Islamaidd ar adeg pan fu ar ei anterth, yn ymestyn o'r Maghreb ac Al-Andalus yn y gorllewin i deyrnasoedd Canolbarth Asia a'r ffin â Tsieina. Gorwedd ei arbenigedd yn y ffaith ei fod yn cynnwys adrannau llawn gwybodaeth am ymylon y byd Islamaidd ac felly mae'n ddogfen hanesyddol eithriadol o bwysig.

Am amser maith bu'r llawysgrif ar goll. Ond yn 1892 cafodd y dwyreinydd Rwsiaidd Toumansky hyd i'r testun yn ninas Bokhara diolch i gymorth Baha'i lleol dysgedig. Cyhoeddwyd argraffiad facsimile gyda rhagymadrodd a mynegiad gan Wilhelm Barthold yn 1930; cafwyd cyfieithiad Saesneg gan V. Minorsky yn 1937, ac un Perseg gan M. Sotude yn 1961.

Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.