Samarcand

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Samarkand)
Jump to navigation Jump to search
Samarcand
Samarqand.jpg
Emblem of Samarkand.svg
Math dinas fawr, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth 504,423 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Fflorens, Balkh, Merv, Bukhara, Nishapur, Lahore, Lviv, Istanbul, Eskişehir, Cuzco, Mary, Banda Aceh, Khujand, Antalya, Gyeongju, Krasnoyarsk, Delhi Newydd, Xi'an, Dinas Mecsico, Rio de Janeiro, Kairouan, Bremen, Lyon, Liège, Plovdiv, Jūrmala, Samara Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Samarqand Region Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Wsbecistan Wsbecistan
Arwynebedd 108 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 702 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 39.6542°N 66.9597°E Edit this on Wikidata
Cod post 140100 Edit this on Wikidata

Dinas yn Wsbecistan yw Samarcand, weithiau Samarkand (Wsbeceg: Samarqand neu Самарқанд). Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 419.600.

Mae Samarcand yn un o ddinasoedd hynaf y byd, wedi ei sefydlu yn y 14g CC. Datblygodd fel un o'r sefydliadau ar hyd Llwybr y Sidan, rhwng Tsieina a'r Dwyrain Canol. Marakanda oedd ei henw pan gipiwyd y ddinas gan Alecsander Fawr yn 329 CC.

Roedd yr ardal, Sogdia, yn Gristnogol i raddau helaeth hyd nes i'r Arabiaid ddod ag De Islamyma. Cipiwyd y ddinas gan Ibn Qutaiba yn 712, ond bu nifer o wrthryfeloedd, a dim ond wedi i fyddin Ymerodraeth Tsieina gael ei gorchfygu ger afon Talas yn 753 y daeth i feddiant y Mwslimiaid yn barhaol.

Yn 1370, gwnaeth Timur Samarcand yn brifddinas yr ymerodraeth yr oedd wedi ei chreu, a daeth a phenseiri o bob rhan o'r ymerodraeth i weithio yma. Dyddia llawer o adeiladau hanesyddol Samarcand o gyfnod Timur. Mae Timur ei hun wedi ei gladdu yma. Cyhoeddwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Canol Samarcand
Mosg Bibi Khanum

Pobl enwog o Samarcand[golygu | golygu cod y dudalen]