Tŵr

Oddi ar Wicipedia
Tŵr CN yn Toronto, Ontario, Canada

Adeilad sydd gryn dipyn yn uwch nag yw o led yw Tŵr (Lladin:turris) . Gallant sefyll ar eu pennau eu hunanin neu fod yn rhan o adeilad mwy, er enghraifft tŵr eglwys.

Ceir enghreifftiau sy'n dyddio i'r cyfnod cynhanesyddol; er enghraifft adeiladau broch yng ngogledd yr Alban. Ceir esiamplau ar Fur Mawr Tsieina yn dyddio o tua 210 CC., a cheir esiamplau Rhufeinig ychydig yn ddiweddarach.

Defnydd arferol tŵr yn y cyfnod cynnar oedd fel amddiffynfa neu rhan o amddiffynfeydd. Erbyn heddiw, fe'i hadeiledir ar gyfer swyddfeydd neu fel mannau byw yn bennaf. Un o'r tyrau mwyaf adnabyddus yw Tŵr Eiffel yn ninas Paris, a gwblhawyd yn 1889. Y tŵr uchaf yn y byd ar hyn o bryd yw Burj Khalifa, sydd yn y broses o gael ei adeiladu yn Dubai.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am tŵr
yn Wiciadur.