Parry's Corner
Gwedd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5b/EID_Parry_headquarters.jpg/250px-EID_Parry_headquarters.jpg)
Ardal busnes yw Parry's Corner yn ninas Chennai, talaith Tamil Nadu, India. Cyfeirir ato yn aml fel "Parry's" ar lafar. Fe'i lleolir ger Chennai Port, ar gornel North Beach Road a NSC Bose Road.
Fe'i enwir ar ôl Thomas Parry, marsiandïwr Cymreig o'r Trallwng a sefydlodd yr EID Parry Company yn 1787. Hyd heddiw mae pencadlys corfforaethol cwmni EID Parry yn sefyll ar y gornel. Mae Parry's Corner yn ganolfan bwysig i fancio marsiandïol a busnes yn Chennai a'r cylch. Yn ogystal, mae'n echel o bwys yn rhwydwaith bysus y ddinas. O ganlyniad, mae'n lle prysur iawn lle ceir traffig trwm a nifer o stondinau yn gwerthu bwyd a nwyddau amrywiol.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) S. Muthia: "The house that Parry built" Archifwyd 2009-11-28 yn y Peiriant Wayback., erthygl yn The Hindu, 11 Rhagfyr 2002.
- TamilNow.com: Lluniau o Parry's Corner.