The Hindu
Gwedd
| Enghraifft o: | papur newydd |
|---|---|
| Cyhoeddwr | The Hindu Group |
| Iaith | Saesneg |
| Dechrau/Sefydlu | 1878 |
| Sylfaenydd | G. Subramania Iyer |
| Pencadlys | Chennai |
| Gwefan | https://www.thehindu.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01g_fj |
Papur newydd Indiaidd yw The Hindu. Mae'n bapur rhyddfrydol iaith Saesneg a sefydlwyd yn 1878 fel wythnosolyn ac a ddaeth yn bapur dyddiol yn 1889. Mae'n gwerthu tua 1,466,304 copi y dydd (2009) gyda tua 4.06 miliwn o ddarllenwyr. Lleolir y pencadlys yn Chennai (Madras), gyda swyddfeydd a chanolfannau cyhoeddi eraill yn ninasoedd Coimbatore, Bangalore, Hyderabad, Madurai, Delhi Newydd, Vizag, Thiruvanathapuram, Kochi, Vijayawada, Mangalore, Tiruchirapalli a Kolkata.[1]
Cyhoeddir argraffiad ar-lein dyddiol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "About Us", The Hindu.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol (Saesneg)