Fferyllydd

Oddi ar Wicipedia

Fferyllydd yw'r enw am rywun sy'n rhedeg fferyllfa neu'n gweithio ynddi. Mae galwedigaeth y fferyllydd yn alwedigaeth iechyd sy'n cyfuno agweddau ar ffiseg a chemeg er mwyn cadarnhau'r defnydd diogel o foddion meddyginaeth. Mae hefyd yn cynnwys y rôl traddodiadol o gyfansoddi a dosbarthu moddion yn ôl cyfarwyddiadau meddyg.