Dwodenwm

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

1: Y geg
2: Taflod
3: Gwacter
4: Tafod
5: Dannedd
6: Chwarennau poer
7: Is-fantol
8: Is-dafod
9: Parotid
10: Isfantol
11: Oesoffagws (y llwnc)
12: Iau (Afu)
13: Coden fustl
14: Dwythell y bustl
15: Stumog
16: Pancreas
17: Pibell bancreatig
18: Coluddyn bach
19: Dwodenwm
20: Coluddyn gwag
21: Ilëwm
22: Coluddyn crog
23: Coluddyn mawr
24: Colon traws
25: Colon esgynnol
26: caecwm
27: Colon disgynnol
28: Colon crwm
29: Rectwm
30: Anws

Mae'r dwodenwm (Saesneg: Duodenum) yn rhagflaenu'r coluddyn bach. Daw'r enw o'r Lladin duodenum digitorum sef 'lled deuddeg bys'.

Mewn bodau dynol, mae'r dwodenwm yn diwb gwag rhwng 25 – 30 cm o ran hyd sy'n cysylltu'r coluddyn gwag (Saesneg: jejunum) gyda'r stumog.

Pwrpas[golygu | golygu cod y dudalen]

Y dwodenwm sy'n bennaf gyfrifol am dreulio (neu dorri i lawr) bwyd yn y coluddyn bach, gan ddefnyddio ensymau i wneud hynny. Mae'r "Brunner's glands" sy'n secretu mwcws i'w cael yn y dwodenwm.

Mae'r organ hwn hefyd yn gyfrifol am reoli'r broses o wagio'r stumog. Gollyngir secretin a cholesystocinin (cholecystokinin) o gelloedd yn yr epitheliwm dwodenol (duodenal epithelium) fel adwaith i asid neu saim; bryd hyn fe agorir y pyloris gan ryddhau "treulfwyd gastrig" i mewn i'r dwodenwm er mwyn cynorthwyo ymhellach gyda'r broses o dreulio'r bwyd. Mae hyn yn peri i'r iau a'r goden fustl i ryddhau bustl (Saesneg: bile), ac i'r pancreas i ryddhau bicarbonad ac ensymau treulio megis trypsin, lipas ac amylas i mewn i'r dwodenwm, fel mae eu hangen.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]