Chwarren boer

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Chwarennau poer)
Neidio i: llywio, chwilio
Y tri math o chwarennau poer: 1. Parotid 2. Chwaren isfantol 3. Chwaren isdafodol.

1: Y geg
2: Taflod
3: Gwacter
4: Tafod
5: Dannedd
6: Chwarennau poer
7: Is-fantol
8: Is-dafod
9: Parotid
10: Isfantol
11: Oesoffagws (y llwnc)
12: Iau (Afu)
13: Coden fustl
14: Dwythell y bustl
15: Stumog
16: Pancreas
17: Pibell bancreatig
18: Coluddyn bach
19: Dwodenwm
20: Coluddyn gwag
21: Ilëwm
22: Coluddyn crog
23: Coluddyn mawr
24: Colon traws
25: Colon esgynnol
26: Caecwm
27: Colon disgynnol
28: Colon crwm
29: Rectwm
30: Anws

Mae'r chwarennau poer mewn mamaliaid yn chwarennau ecsocrin h.y. mae ganddynt ddwythelli cludo hylif, sef y poer. Mae nhw hefyd yn secretu amylas, sef ensym dreuliol sy'n torri starts i lawr yn maltos a glwcos. Mewn pobol, a rhai anifeiliaid eraill, y secretiad yw alffa-amylas, a gaiff ei adnabod hefyd dan yr enw ptyalin.

Anifeiliaid eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae chwarennau rhai anifeiliaid wedi'u haddasu, drwy esblygiad, i gynhyrchu proteinau; ceir amylas poerol yn y rhan fwyaf o adar a mamaliaid (gan gynnwys bodau dynol). Math o chwarennau poer wedi'u haddasu sydd gan y neidr i gynhyrchu gwenwyn, ac felly hefyd yr 'anghenfil Gila' a'r chwistlen (neu'r Sorex araneus).[1]

Ond mewn anifeiliaid fel pryfaid, caiff y chwarennau poer eu defnyddio i gynhyrchu proteinau allweddol fel sidan neu lud, ac mae'r chwarennau'n cynnwys cromosomau polyten sydd wedi bod yn hynod o ddefnyddiol o fewn maes ymchwil i geneteg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Romer, Alfred Sherwood; Parsons, Thomas S. (1977). The Vertebrate Body. Philadelphia, PA: Holt-Saunders International. pp. 299–300. ISBN 0-03-910284-X. 
Skull template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.