Poen cefn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwahanol ardaloedd yr asgwrn cefn.

Poen sy'n cael ei deimlo yn y cefn yw poen cefn (neu "dorsalgia"), sydd fel arfer yn tarddu yn y cyhyrau, nerfau, esgyrn, cymalau neu yn strwythrau eraill o fewn yr asgwrn cefn.

Gall y poen gael ei rannu'n boen gwar, poen gwaelod y cefn neu poen asgwrn cynffon. Gall dechru'n sydyn neu fon yn boen cronig; gall hefyd fod yn gyson neu'n ysbeidiol, aros mewn un lle neu stay in one place or belydru i ardaloedd eraill o'r corff. Gall fod yn boen dwl neu'n boen siarp, neu yn deimlad llosgi. Gall y poen belydru i'r freich a'r llaw), i rhan uchaf y cefn, neu waelod y cefn, y goes a'r droed, a gall gynnwys symptomau eraill megis, gwendid, dideimlad neu phinnau a nodwyddau.

Mae'r asgwrn cefn yn rwydwaith cymleth o nerfau, cyhyrau, tennynau a tendonau, a gellir pob elfen achosi poen. Mae nerfau mawr yn tarddu yn yr asgwrn cefn y darparu'r coesau a'r breichiau gan alluogi i boen belydru i eithafoedd y corff.

Poen cefn yw un o gwynion mwyaf cyffredinol dyn. Poen llym yng ngwaelod y cefn (lumbago) yw'r pumed reswm mwyaf cyffredin am ymweld â'r meddyg yn yr Unol Daleithiau. Bydd tua naw o pob deg oedolyn yn dioddef poen cefn rhyw bryd neu gilydd yn ystod eu bywyd, a bydd hanner yr oedolion sy'n gweithio'n dioddef poen cefn pob blwyddyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  A.T. Patel, A.A. Ogle. Diagnosis and Management of Acute Low Back Pain. American Academy of Family Physicians. Adalwyd ar 12 Mawrth 2007.