Llythyrau Paul at y Corinthiaid

Oddi ar Wicipedia
Y Beibl
Y Testament Newydd

Dau lythyr gan yr Apostol Paul yn y Testament Newydd yw Llythyrau Paul at y Corinthiaid, sef Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid (1 Corinthiaid) ac Ail Lythyr Paul at y Corinthiaid (2 Corinthiaid). Fe'u hysgrifenwyd gan Paul at Gristnogion cynnar yn ninas Corinth, Gwlad Groeg, tua'r flwyddyn 57 OC. Dyma'r seithfed a'r wythfed o lyfrau'r Testament Newydd yn y Beibl canonaidd.

1 Corinthiaid[golygu | golygu cod]

Yn y llythyr cyntaf, mae Paul yn trafod problemau yn yr eglwys gynnar ac yn ateb cwestiynau ar sawl pwnc sy'n ymwneud ac athrawiaeth a bywyd ymarferol y Cristion, fel er enghraifft priodas a gwyryfdod, atgyfodiad y meirw, a'r Ewcarist.

2 Corinthiaid[golygu | golygu cod]

Yn yr ail lythyr, mae'r apostol yn esbonio natur ei weinidogaeth ac yn ei amddiffyn ei hun yn erbyn ei wrthwynebwyr yng Nghorinth.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.