Llythyrau Paul at Timotheus

Oddi ar Wicipedia
Y Beibl
Y Testament Newydd

Ceir Llythyrau Paul at Timotheus yn y Testament Newydd, sef rhan olaf y Beibl Cristnogol. Ceir dau lythyr, sef Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus ac Ail Lythyr Paul at Timotheus, sy'n cyfrif fel llyfrau yn y Beibl canonaidd. Fe'i hysgrifenwyd gan yr Apostol Paul, un o ddisgyblion pennaf Iesu o Nasareth, at ei ddisgybl yntau, Timotheus, a ddaeth yn esgob Ephesus yn Asia Leiaf, yn ôl Eusebius. Maent yn rhan o gyfres o lythyrau gan Paul a geir yn llyfrau'r Testament Newydd. Nid yw pob ysgolhaig yn credu eu bod yn waith dilys gan Paul.

Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau'r Llythyr Cyntaf mae Paul yn rhybuddio Timotheus rhag ddilyn "athrawiaethau gau" ac yn diolch am drugaredd Duw. Fe â yn ei flaen i roi cyfarwyddiadau ynglŷn â gweddïo ac i ddisgrifio cymwysterau esgobion a diaconiaid. Sonia am "ddirgelwch" y ffydd Gristnogol gan ragfynegi dyfodol gogoneddus iddi ond gan rybuddio y bydd rhai yn cefni arni hefyd. Yn rhan olaf y llythyr mae'n troi at faterion moesol ac ysbrydol yn cynnwys dyletswyddau'r credadyn tuag at eraill.[1]

Ail Lythyr Paul at Timotheus[golygu | golygu cod]

Mae'r Ail Lythyr yn fyrrach. Mae Paul yn pregethu teyrngarwch i'r Efengyl ac yn annog Timoetheus i fod yn "filwr da i Iesu Grist". Sonia wedyn am ymddygiad pobl yn y "Dyddiau Diwethaf", sef y cyfnod cyn Dydd y Farn. Mae'r llythyr yn gorffen ar nodyn personol gyda Paul yn gofyn i Timotheus ddod ato yn fuan a rhoi cyfarchion i'w trosglwyddo ganddo i ddisgyblion eraill.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus", Y Beibl Cymraeg Newydd
  2. "Ail Lythyr Paul at Timotheus", Y Beibl Cymraeg Newydd
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.